Adnoddau newydd ar gyfer seilwaith cyfathrebu Cymraeg
Yn ystod 2015-2016 bu tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron. Mae hon yn dechnoleg sy’n dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r llais dynol gael ei ddefnyddio mewn systemau holi ac ateb ar ffonau symudol a thabledi, systemau rheoli teclynnau fel setiau teledu a robotiaid, a systemau arddweud. Os na fydd modd defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr iaith yn cael ei chau allan fwyfwy o’r byd digidol, a siaradwyr Cymraeg yn gorfod troi i’r Saesneg.
Er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer y dechnoleg newydd yn Gymraeg, ariannodd Llywodraeth Cymru ac S4C y project arloesol, Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg, ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r project wedi cynhyrchu prototeip o system cwestiwn ac ateb lle mae cynorthwyydd personol o’r enw ‘Macsen’ yn gallu ateb cwestiynau llafar, er enghraifft beth yw’r newyddion neu’r tywydd, a hefyd fersiwn alffa o system drawsgrifio Gymraeg, ynghyd â’r modelau acwstig, modelau iaith a chorpws llafar a ddefnyddiwyd i greu’r rhain.
Eglurodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd y project:
“Y bwriad yw rhoi mynediad rhad ac am ddim at yr adnoddau hyn drwy’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol, fel bod datblygwyr meddalwedd, cwmnïau mawr rhyngwladol a chwmnïau bach lleol, clybiau codio, hacwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu meddalwedd Cymraeg yn medru’u cymryd, eu datblygu ymhellach a’u cynnwys o fewn eu meddalwedd eu hunain. Mae’r data, y cod ffynhonnell, nodiadau defnydd a gwybodaeth ddefnyddiol arall yn cael eu cadw o fewn Github, storfa ar y we sy’n cael ei defnyddio’n helaeth gan ddatblygwyr. Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn yn dangos ac yn defnyddio’r adnoddau hyn yn Hacio’r Iaith yng Nghaerdydd, ar 16 Ebrill eleni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y digwyddiad hwnnw.”
Un o’r cyntaf i gael gweld a chlywed y prototeip o’r cynorthwyydd personol ‘Macsen’ oedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Meddai’r Prif Weinidog
“Rwy’n falch iawn gweld cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at adeiladwaith pwysig fel hyn. Er mwyn i’r iaith Gymraeg barhau i ffynnu fel iaith gyfoes, mae’n glir fod angen iddi addasu a chyfrannu at gymaint o elfennau o fywyd modern ag sy’n bosib. Mae cynnig ystod eang o ddyfeisiadau a thechnoleg sy’n gallu deall a chyfathrebu yn Gymraeg yn ganolog i hyn.”
Dangoswyd y system hefyd i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern, mewn sesiwn gyda Dr Cynog Prys o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor.
“Roedd y plant wedi gwirioni” , meddai. “Mewn byd lle mae technoleg i’w gweld mor Seisnig, mae’n bwysig iawn fod pobl ifanc yn sylweddoli fod modd cael y teclynnau hyn i siarad Cymraeg hefyd. Mae’n rhan bwysig o wneud yn siwr fod y Gymraeg yn ffynnu yn y byd digidol newydd.”
Bydd yr adnoddau hyn yn cael eu gosod ar wefan y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol a storfeydd eraill ar gyfer datblygwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016