Datblygu iaith yn arwain at ddatblygu gyrfa
Ddechrau’r haf cafodd yr athrawes Nia Daly o Landrillo yn Rhos ei chyflwyno â thystysgrif go arbennig – am gwblhau cwrs i ddatblygu ei sgiliau iaith Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Mae’n dair blynedd ers i Mrs Daly wneud cwrs uwch y Cynllun Sabothol Cenedlaethol ac mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
Pan ddilynodd y cwrs, roedd Nia Daly’n Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Babanod yr Eglwys yng Nghymru, Llanelwy. Roedd hi’n awyddus i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol a chefnogi cyd-athrawon a oedd yn llai hyderus na hi yn yr iaith.
Gan mai yn Saesneg yr oedd Nia wedi arfer gweithio, roedd hi’n teimlo nad oedd ei Chymraeg yn ddigon da ar gyfer gwaith gweinyddol fel ysgrifennu llythyrau ac adroddiadau swyddogol. Mae Nia’n dod o Wynedd yn wreiddiol, a Chymraeg yw ei hiaith gyntaf. Er hyn, astudiodd ei phynciau academaidd drwy gyfrwng y Saesneg ac mae’n cyfaddef ei bod wedi ceisio osgoi ysgrifennu yn y Gymraeg am flynyddoedd oherwydd diffyg hyder.
Dywedodd Nia: “Ar ddechrau’r cwrs roedd fy Nghymraeg llafar i’n eithaf da a fy mwriad i oedd gwella fy ngallu i ysgrifennu yn Gymraeg. Ar ddiwedd y cwrs roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi gwneud camau enfawr tuag at gyflawni hyn. Rydw i nawr yn llawer mwy hyderus ac awyddus i ysgrifennu yn Gymraeg ac mae fy iaith lafar wedi ei gloywi hefyd.”
Mae Nia Daly bellach yn Bennaeth Mewn Gofal yn Ysgol Eglwysbach, ble mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd bob dydd yr ysgol. Mae hi hefyd yn Arolygwr Cymheiriaid gydag ESTYN, y corff arolygu Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Yn y swydd honno mae’n cynnal arolygiadau ysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ôl Nia, y Cynllun Sabothol a roddodd y sgiliau a’r hyder iddi fedru gwneud hyn.
“Tasech chi wedi dweud wrtha i dair blynedd yn ôl y buaswn i’n ysgrifennu adroddiadau arolygiadau yn Gymraeg, fuaswn i ddim wedi eich credu chi,” dywedodd Nia. “Dydi o ddim yn ormod dweud bod y Cynllun Sabothol wedi newid fy ngyrfa i.”
Mae cwrs uwch y Cynllun Sabothol yn gwrs sy’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac yn agored i athrawon, darlithwyr ac aseswyr iaith gyntaf ac ail iaith sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Bydd y cwrs nesaf, dros 20 diwrnod, yn digwydd rhwng Ebrill a Gorffennaf 2016 ac mae Canolfan Bedwyr eisoes yn derbyn ceisiadau ar ei gyfer.
Am ragor o fanylion cysylltwch â thîm y Cynllun Sabothol ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2015