Geiriadur Bangor yn camu i'r bwlch
Mae Geiriadur Cymraeg Saesneg y BBC nôl yn fyw ar ei newydd wedd diolch i Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Pan dynnwyd Geiriadur y BBC o’u gwefan, yn sgil ymddeol eu hen feddalwedd, roedd llawer o bobl yn gweld ei golli. Er bod geiriaduron ar-lein eraill yn bodoli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg erbyn hyn, roedd nifer o ddefnyddwyr, gan gynnwys dysgwyr, yn hoffi ei ryngwyneb syml, hawdd ei ddefnyddio. Roedd ei gyfuniad o eirfa cyffredinol a’r termau technegol diweddaraf hefyd yn boblogaidd iawn. Gofynnwyd i lunwyr gwreiddiol y Geiriadur, sef Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr a oedd modd iddyn nhw ei adfer, a’i gyhoeddi ar wefan y brifysgol.
Fe fu Dewi Bryn Jones a Gruffudd Prys wrthi felly yn diweddaru gwedd y geiriadur a’i nodweddion chwilio hwylus. Mae’r geiriadur yn gyfuniad o Cysgair, geiriadur cyffredinol Prifysgol Bangor, a Y Termiadur Addysg, sef geiriadur o dermau technegol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru, sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cyfateb i’r ap poblogaidd, sef yr ‘Ap Geiriaduron’.
Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, “Mewn cyfnod pan y mae Llywodraeth Cymru, cynllunwyr iaith a charedigion y Gymraeg yn gytûn fod angen pwyslais ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg, yn gymdeithasol a phroffesiynol, rydym yn gobeithio fod cyhoeddi’r geiriadur hwn yn gyfraniad bach ymarferol at y nod hwnnw.”
I ddathlu’r ffaith fod y brifysgol yn awr yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal y geiriadur, fe’i ailenwyd yn Geiriadur Bangor. Bydd ar gael o hyn ymlaen ar http://geiriadur.bangor.ac.uk a’r gobaith yw ychwanegu nodweddion a deunydd newydd iddo o hyn allan.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014