Innovate UK yn dyfarnu rhagoriaeth i Brifysgol Bangor am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth mewn Cyfieithu Peirianyddol
Dyfarnwyd gradd A (Rhagoriaeth) i Brifysgol Bangor a Cymen Cyf am eu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae Cymen yn gwmni cyfieithu a leolir yng Nghaernarfon, ac mae’n un o brif gyflogwyr graddedigion yng Ngwynedd yn y sector breifat. Prif ffocws y KTP oedd datblygu cyfieithu peirianyddol parth-benodol rhwng Saesneg a Chymraeg, gan ddefnyddio archif fawr Cymen o ddogfennau wedi’u cyfieithu fel data hyfforddi.
Esboniodd Dewi Bryn Jones, o Uned Technolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr, a oedd yn Oruchwyliwr Academaidd ar y project: “Nod ein hymchwil ni yw gwneud technolegau iaith yn rhydd a hygyrch er mwyn cefnogi’r iaith Gymraeg a gweithgaredd economaidd yng Nghymru. Roedd y KTP hwn yn gyfle cyffrous i ni ddefnyddio a throsglwyddo ein harbenigedd mewn cyfieithu peirianyddol parth-benodol gydag archif enfawr Cymen o gyfieithiadau hanesyddol. Gan weithio’n agos gyda’r cysylltai KTP, Myfyr Prys, fe lwyddon ni i ddangos mewn cynhadledd Ewropeaidd ddiweddar yn Nulyn fod peiriannau pwrpasol Cymen yn rhoi llawer gwell canlyniadau na pheiriannau cyfieithu cyffredinol fel y rhai sydd ar gael ar y we.”
Dywedodd Manon Cadwaladr, un o gyfarwyddwyr Cymen: “Roeddem wedi’n synnu gan ansawdd yr allbwn ac rydyn ni’n awr wedi’i gynnwys yn rhan o’r biblinell gyfieithu, gan ei ddefnyddio ar y cyd gyda’n cyfieithwyr dynol. Yn groes i’r canfyddiad fod cyfieithu peirianyddol yn gwneud cyfieithwyr yn ddi-waith, rydyn ni wedi medru ehangu ein gweithlu, gan gyflogi pum cyfieithydd ychwanegol o ganlyniad i hyn. Rydyn ni wedi gwella ein gallu i gynhyrchu cyfieithiadau o safon uchel o fewn terfynau amser caeth iawn, ac mae trosiant a phroffidioldeb wedi cynyddu.”
Mae Cymen a UTI Prifysgol Bangor yn awr wedi ennill grant Partneriaeth SMART gan Lywodraeth Cymru i barhau eu cydweithrediad, gyda phwyslais newydd ar ddefnyddio dulliau mwy diweddar mewn deallusrwydd artiffisial a dysgu dwfn i wella cyfieithu peirianyddol, yn ogystal â galluogi cyfieithwyr mewn ardaloedd gweledig anghysbell i weithio o adre.
Wrth longyfarch Cymen a’r Uned Technolegau Iaith ar eu project, dywedodd Yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
“Peth prin iawn yw dyfarnu graddau ‘A’ i’r projectau KTP hyn, ac mae’n gryn gamp i’r ddau bartner fod eu project wedi cyrraedd y safon eithriadol hwn. Rydym yn arbennig o falch fod eu cydweithrediad wedi cynorthwyo datblygu ymchwil technoleg iaith ar gyfer y Gymraeg ac wedi bod o fudd i’r economi leol. Gan fod y partneriaid wedi ennill cyllid pellach drwy’r cynllun Partneriaeth SMART, rydym nawr yn edrych ymlaen at rhagor o lwyddiannau wrth ddatblygu cyfieithu peirianyddol rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.”
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:
“Mae gwell cyfieithu awtomatig yn un o amcanion allweddol ein cynllun gweithredu Technoleg Cymraeg. Mae’n dda gweld arloesedd yn y maes hwn ym Mhrifysgol Bangor a Cymen yn cael ei gydnabod.”
Derbyniodd y bartneriaeth hon gefnogaeth ariannol oddi wrth y rhaglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP). Mae KTP yn ceisio cynorthwyo busnesau i fod yn fwy cystadleuol a chynhyrchiol drwy wneud gwell defnydd o’r wybodaeth, y dechnoleg a’r sgiliau sydd ar gael o fewn sylfaen wybodaeth y DU. Mae’r KTP llwyddiannus hwn, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU drwy Innovate UK, yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth.
Caiff y project Partneriaeth SMART ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Maent yn cynnig cefnogaeth ariannol i arloesi projectau ar y cyd sydd angen amrediad o arbenigeddau i helpu busnesau i dyfu, gwella cynhyrchiant a chynyddu eu gallu cystadleuol. Nod Partneriaethau SMART yw cynyddu gallu a chapasiti busnesau yng Nghymru i ymgymryd â gweithgaredd Ymchwil, Datblygu ac Arloesi drwy drosglwyddo gwybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2019