Lansio cyfrol arloesol ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg
Bydd cyfrol o ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg yn cael ei lansio gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar yr 21ain o Ionawr ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r gyfrol yn cynnwys saith ysgrif gan y Dr Bruce Griffiths o Fangor, y Dr David Willis o Brifysgol Caergrawnt, y Dr Elena Parina o Rwsia, sydd ar hyn o bryd ym mhrifysgol Marburg yn yr Almaen, Bob Morris Jones o Aberystwyth, y Dr Gwen Awbery o Gaerdydd, Andrew Hawke o Eiriadur Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Robat Trefor o Brifysgol Bangor.
Hon yw’r gyfrol gyntaf sy’n trafod agweddau ar ieithyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i gael ei chyhoeddi ers cryn amser, er bod y twf diweddar yn statws y Gymraeg, a’r defnydd ohoni, yn gwneud astudio’r iaith yn fater cynyddol bwysig. Dywedodd Dylan Phillips, uwch reolwr academaidd y Coleg Cymraeg: “Mae’r gyfrol hon yn llenwi peth ar y bwlch enfawr yn y maes, ac yn gaffaeliad i fyfyrwyr ac ysgolheigion sy’n ymddiddori mewn Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth”.
Traddodwyd yr ysgrifau yn wreiddiol fel cyfres o ddarlithiau “Y Gîcs Gramadeg” a drefnwyd gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Dywedodd Delyth Prys, pennaeth yr Uned a golygydd y gyfrol: “Fe gafon ni ymateb anhygoel i’r darlithiau, gyda dros gant o fyfyrwyr, staff a chyfieithwyr yn mynychu’r sesiynau. Roedden nhw’n cael eu darlledu dros y rhwydwaith fideo o Fangor i stiwdios eraill y Coleg Cymraeg ar draws Cymru. Roedd galw wedyn am gyhoeddi’r darlithiau, ac fe fanteision ni ar dechnoleg newydd yr e-lyfr i wneud hyn yn hwylus ac yn rhad i bawb.”
Y siaradwr gwadd yn y lansiad fydd Dafydd Glyn Jones, cyd-olygydd Geiriadur yr Academi, ac un a fu’n ymgyrchu’n frwd am flynyddoedd i sefydlu Coleg Cymraeg ac i gryfhau ysgolheictod Cymraeg o fewn Addysg Uwch yng Nghymru.
Mae’r gyfrol wedi’i chyhoeddi ar Y Porth, llwyfan e-ddysgu’r Coleg Cymraeg. Mae ar gael yno i’w llwytho i lawr yn rhad ac am ddim fel e-lyfr i ddyfeisiau Apple ac Android (fformat EPUB), a Kindle (fformat MOBI), neu fel PDF i ddarllen ar gyfrifiadur. Ewch i Lyfrgell Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i lwytho copi i lawr.
7yh, nos Fercher 21 Ionawr yng Nghanolfan Bedwyr, Ffordd y Coleg, Bangor.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Swyddfa Canolfan Bedwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2015