Pen-blwydd Ymgyrch Common Voice Cymraeg yn Un Oed
Heddiw (dydd Gwener 7 Mehefin, 2019) mae’n flwyddyn gyfan ers lansio’r ymgyrch Common Voice Cymraeg ( http://voice.mozilla.cy). Mae Common Voice yn llwyfan torfoli a ddatblygwyd gan gwmni meddalwedd rhyngwladol Mozilla, ac yn ymdrech i gasglu recordiadau llais o nifer o ieithoedd y byd ar gyfer creu technoleg lleferydd cod agored yn yr ieithoedd hyn.
Eisoes mae’r Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor wedi defnyddio’r casgliad corpws cyntaf gafodd ei ryddhau (cyfanswm o 21 awr o recordiadau) i greu’r ap adnabod lleferydd, ‘Macsen’. Erbyn hyn, mae 41 awr wedi’u recordio a’u dilysu, a hynny gan 708 o wirfoddolwyr.
Mae’r Uned yn anelu at gasglu 100 o oriau wedi’u dilysu a chyfraniadau gan 1000 o bobl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd hynny yn eu galluogi i wella adnabod lleferydd Cymraeg a chynhyrchu rhagor o adnoddau ar gyfer siarad yn Gymraeg gyda dyfeisiau electronig.
I’r rhai sydd eisoes wedi cyfrannu, y neges gan yr Uned yw ‘diolch, a chyfrannwch ragor!’ Os nad ydi unigolion wedi cyfrannu eto, mae’r Uned yn eich hannog i roi cynnig arni. Maent yn chwilio am acenion o bob math, gan gynnwys acenion dysgwyr, ac os nad yw unigolion yn teimlo’n ddigon hyderus i gyfrannu eu llais, gallant helpu’r Uned i ddilysu’r corpws drwy wrando ar leisiau cyfranwyr eraill.
Hoffai’r Uned ddiolch i Mozilla am gynnwys y Gymraeg yn rhan o’r project Common Voice; i Lywodraeth Cymru am ariannu’r gwaith o ddatblygu adnabod lleferydd Cymraeg; ac i Meddal.com am eu gwaith gwirfoddol yn hyrwyddo Common Voice Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2019