Rhannu technolegau iaith y Gymraeg â gweddill y byd
Ar 25 Ionawr, daeth ymchwilwyr academaidd, datblygwyr lleol a chynrychiolwyr rhai o gwmnïau mawr y sector digidol at ei gilydd ym Mangor i drafod a rhannu arferion da ym maes technolegau iaith, a hynny yng Nghynhadledd Technoleg a’r Gymraeg 2019. Dyma’r drydedd gynhadledd i’w chynnal gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor.Eluned Morgan AC yn agor y gynhadledd
Eleni, agorwyd y gynhadledd gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a gyflwynodd Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru, sef cynllun uchelgeisiol gan y Llywodraeth i sicrhau defnydd cyflawn o dechnoleg yn ei nod o sicrhau bod miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050.
Yn ogystal â thrafod y Cynllun Gweithredu, cafwyd cyflwyniadau ar strategaethau digidol ar gyfer adfywio ieithoedd, technoleg adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg a thrafodaethau ar sut y gall technolegau iaith fod yn yrrwr i’r economi. Yn ogystal, rhoddwyd sylw i ieithoedd lleiafrifol eraill a lle technoleg yng nghyd-destun hyfywedd yr ieithoedd hynny.
Ymhlith y cyfranwyr eleni oedd cynrychiolydd o gwmni rhyngwladol Mozilla, arweinydd project Amrywiaeth ieithyddol Digidol Ewrop, ymchwilydd cyfieithu peirianyddol o Dublin City University a Wicimediwr Cenedlaethol Cymru, Jason Evans.
Wrth gloriannu’r gynhadledd eleni, meddai Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys:
“Rydyn ni’n arbennig o falch o fedru croesawu Eluned Morgan i agor y gynhadledd eleni. Mae’r Gymraeg yn rhan o deulu o ieithoedd bach ar draws y byd sy’n awyddus i lwyddo yn y byd technolegol a digidol newydd, ac mae cyfleoedd fel hyn i rannu syniadau a datblygiadau arloesol yn bwysig i ni i gyd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cymru yn flaengar wrth ddefnyddio technolegau iaith i adfywio a diogelu ein hiaith, ac rydyn ni’n falch o fedru rhannu’r datblygiadau yma gyda’r gymuned ryngwladol ehangach.”
Ategwyd hyn gan Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg:
“Yn ogystal â bod yn ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg o bwys, mae’n wych gweld Prifysgol Bangor yn arwain ar yr holl elfennau atodol hynny – ymchwil, polisi a thechnoleg – sy’n cyfrannu at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nid agweddau ar wahân mo rhain, yn bodoli mewn gwagleoedd, ond yn hytrach y seilwaith sydd ei hangen arnom wrth i ni gyrchu’r nod uchelgeisiol hwn.”
Wrth agor y gynhadledd eleni, cyfeiriodd Eluned Morgan AC at yr angen i dechnoleg Gymraeg i allu cynnal datblygiadau presennol yn y maes ac i rannu ei harbenigeddau ag eraill:
“Mae technoleg eisoes wedi newid y ffordd ry’n ni’n byw yn llwyr, ac mae’n bosibl y bydd y newidiadau’n digwydd yn gyflymach fyth yn y dyfodol. Dwi’n falch fod cynhadledd o’r fath wedi ei drefnu er mwyn i bawb allu dysgu oddi wrth ein gilydd er budd ein hieithoedd ni i gyd ym myd technoleg.”
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019