Wikimedia yn cydweithio gyda'r Uned Technolegau Iaith
Cyhoeddwyd cydweithrediad newydd rhwng y Wikimedia Foundation a Phrifysgol Bangor i alluogi’r ddau barti i rannu syniadau a phrofiad o ddatblygu offer technolegau iaith ar gyfer sefyllfaoedd amlieithog. Bydd y cydweithio yn cynnwys ymgorffori cydrannau o feddalwedd newydd CyfieithuCymru.com Prifysgol Bangor yn y feddalwedd sy’n pweru Wikipedia.
Mae meddalwedd CyfieithuCymru.com Prifysgol Bangor yn gynnyrch newydd ar gyfer sefydliadau ddwyiethog, asiantaethau a chyfieithwyr sydd wedi’i gynllunio’n arbennig i hwyluso cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n cynnwys rheolwr llif gwaith, cofion cyfieithu, geirfaon yn ogystal â chydrannau uwch megis Cysill – y gwirydd sillafu a gramadeg – a pheiriannau cyfieithu awtomatig Bangor. Mae CyfieithuCymru.com yn galluogi cyfieithwyr proffesiynol i weithio’n fwy effeithiol drwy ddarparu testun wedi’i gyfieithu o flaen llaw yn awtomatig ar gyfer ei gywiro ac wedyn ei gyhoeddi.Mae hyn yn torri lawr ar waith cyfieithwyr dynol, ac ar yr un pryd yn osgoi peryglon cyfieithu awtomatig pur.
Dywedodd David Chan, arbenigwr ar systemau cyfieithu a pheiriannydd meddalwedd yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, fod y Wikimedia Foundation yn datblygu arf Cyfieithu Cynnwys ar gyfer awduron a golygyddion gwirfoddol i gyfieithu erthyglau ac y bydd peiriannau cyfieithu awtomatig Bangor yn rhan o’r hyn fydd gan Wikimedia i’w gynnig.
Esboniodd David: “Er bod CyfieithuCymru.com yn edrych yn wahanol iawn i amgylchedd amlieithog Wikimedia, mewn gwirionedd fe ddefnyddion ni dipyn o’n profiad ni gydag e i gynllunio offer Wikimedia, yn arbennig y ffordd mae cyfieithu awtomatig yn integreiddio gyda llif gwaith cyfieithwyr. Mae cyfieithwyr yn naturiol yn poeni y gall cyfieithu peirianyddol o safon gwael gael ei gamddefnyddio, ond mae galluogi’r golygydd i edrych ar allbwn y peiriant a’i olygu yn dod dros y broblem honno.” Ychwanegodd David, sy’n siarad Cymraeg, Saesneg, Cantoneeg ac Almaeneg: “Mae’r Gymraeg mewn gwirionedd yn iaith o faint canolig o ran ei safle ymhlith ieithoedd y byd, - mae yna lawer o ieithoedd sydd dipyn yn llai o ran adnoddau a nifer eu siaradwyr. Mae’n beth da fod y Gymraeg yn anuniongyrchol wedi medru helpu rhai o’r ieithoedd llai hyn.”
Dywedodd Alolita Sharma, Cyfarwyddwr Peirianneg Iaith Wikimedia, “Rydym yn croesawu’r cyfle i rannu arbenigedd Prifysgol Bangor mewn cyfieithu peirianyddol a technoleg iaith ar gyfer ieithoedd llai eu hadnoddau.”
Ychwanegodd Delyth Prys, pennaeth Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr: “Mae’r cydweithrediad yma gyda Wikimedia yn gyffrous iawn i ni a gobeithiwn gael syniadau a data newydd i’n cynnyrch CyfieithuCymru.com ac i’n peiriannau cyfieithu awtomatig. Mae CyfieithuCymru.com yn dechrau dod yn boblogaidd iawn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac fe wnaethom ni arddangos ein cydweithrediad gyda Wikimedia yn nigwyddiad Hacio’r Iaith yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor.”
Cafodd mynychwyr Hacio’r Iaith, a oedd yn cynnwys golygyddion Wicipedia Cymraeg, datblygwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr cod agored, a chynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, y cyfle i glywed mwy am y cydweithrediad gyda Wikimedia yn ogystal â’r cyfle i weld a thrafod y cynnyrch, tueddiadau a syniadau diweddaraf. Dywedodd Delyth Prys: “Hacio’r Iaith yw’r digwyddiad meddalwedd a thechnoleg Cymraeg mwyaf yng Nghymru ac fe wnaethon ni fwynhau ei groesawu i Brifysgol Bangor yn fawr. Roedd yn gyfle gwych i drafod ein cynnyrch a’n dyheadau ni’n hunain, ond hefyd i ddysgu oddi wrth eraill sy’n weithgar yn y maes. Rydyn i gyd yn edrych ymlaen i weld ein cydweithrediad gyda Wikimedia Foundation yn dwyn ffrwyth ac yn awyddus i gydweithio gyda sefydliadau a chwmniau eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2014