Fy ngwlad:
 Myfyriwr yn edrych trwy archifau'r Brifysgol

Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Gwnewch gais cyn 6yh ar Ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025 i gychwyn eich cwrs ym Medi 2025
Sian Evans yn gwenu i'r camera yn ei gwisg graddio

Proffil Graddedig Sian Evans

Wrth ddod i Fangor, rydych chi wedi'ch amgylchynu gan hanes - boed eich diddordeb yn y cyfnod cynhanesyddol neu unrhyw gyfnod rhwng hynny a heddiw. Mae gennych chi Safleoedd Treftadaeth y Byd ar garreg eich drws. Mae ehangder y modiwlau a gynigir hefyd yn eich galluogi i deilwra’ch cwrs i'ch diddordebau; a gall staff sy'n arweinwyr yn eu maes eich arwain at y cyfnod rydych chi’n ei fwynhau fwyaf. Mae’r gefnogaeth gan ddarlithwyr, tiwtoriaid personol a staff cymorth yn aruthrol.

Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf yw dysgu mwy a mwy am fy hoff bwnc sef hanes. Mae fy seminarau yn hwyl oherwydd fy mod i'n gallu siarad am fy marn ar bynciau rydw i'n eu caru a gallu dysgu gan eraill..

Nia Rogers,  Hanes

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio  Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Liam Smiling to Camera with beach backdrop

Liam Evans

Mi oedd y dair blynedd wnes i dreulio ym Mhrifysgol Bangor o blith y gorau erioed. Yma ges i gyfle i ddysgu yr hyn oedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac ehangu fy sgiliau. Mi oedd y brifysgol yn cynnig bob math o fodiwlau difyr a ges i gyfle i astudio meysydd hollol newydd. Roedd y gefnogaeth gan staff yn wych ac roeddwn yn teimlo eu bod wir yn rhoi y myfyrwyr wrth galon bob dim oedd yn digwydd.

Gweithio gyda'r gymuned

Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o weithio gyda'r gymuned, a chredwn yn gryf yn y cysylltiad arbennig rhwng y sefydliad a'r ardal yr ydym wedi'n lleoli ynddi. Dyma rai enghreifftiau o brojectau yn ymwneud â Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:

Ein Hymchwil o fewn Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth

Mae ymchwil cyffrous ac arwyddocaol staff academaidd yr Ysgol yn chwarae rhan bwysig i sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd. Mae ein hymchwil yn rhychwantu amrywiaeth dda o bynciau ac arbenigeddau ym meysydd Hanes, treftadaeth ac Archeoleg gan gynnwys:

  • Hanes Cymru
  • Archaeoleg Gymreig a Cheltaidd
  • Hanes yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar
  • Hanes yr Ugeinfed Ganrif a'r Unfed Ganrif ar Hugain.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.