Fy ngwlad:
Seicolegydd Clinigol gyda chlaf mewn lleoliad clinigol.

Seicoleg Glinigol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Seicoleg Glinigol

Pam Astudio Seicoleg Glinigol?

Mae’r Rhaglen Ddoethurol dair-blynedd hon yn gynllun ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Mae'n cynnwys sawl nodwedd unigryw y mae ein myfyrwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr:

  • Mae'r adran Seicoleg ym Mangor yn adran fawr a chosmopolitan gyda staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd

  • Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'.

  • Graddiodd dros 75% gyda gradd 1af neu 2:1 yn 2021

  • Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DU

  • Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol

     

Cyfleoedd Gyrfa mewn Seicoleg Glinigol

Mae ein holl hyfforddeion hyd yma wedi llwyddo i gael gwaith fel Seicolegwyr Clinigol ar ôl cymhwyso o Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru. Mae grŵp mawr yn aros yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio mewn gwasanaethau clinigol.  Mae grŵp llai yn symud i ffwrdd, ond yn aml yn dychwelyd pan ddaw swyddi ar gael yng Ngogledd Cymru.  Ar ôl cymhwyso, mae rhai hyfforddeion wedi mynd ymlaen i weithio yn y sector preifat a'r trydydd sector, neu wedi cymryd swyddi academaidd ac ymchwil.

Ein Hymchwil o fewn Seicoleg Glinigol

Mae ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg yn adlewyrchu dau ddull allweddol. Y dull cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran hŷn. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda’r ysgol pan gafodd ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n parhau i fod yn ganolog i’n hunaniaeth ymchwil heddiw. Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol. 

Darperir goruchwyliaeth ymchwil ar Raglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru gan dîm y rhaglen, seicolegwyr clinigol a chydweithwyr yn yr Ysgol Seicoleg.  Yn ddiweddar cynhaliwyd ymchwil mewn sawl maes, gan gynnwys: ymlyniad mewn troseddwyr rhyw, tadolaeth mewn cymunedau difreintiedig, rhaglenni bwlio KiVa mewn ysgolion cynradd, gwasanaethau BDT mewn ID, strategaethau cymdeithasol mewn Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig, a sgiliau DBT mewn gwasanaethau cleifion mewnol. Am restr lawn o deitlau traethodau ymchwil, edrychwch ar http://nwcpp.bangor.ac.uk/topics.php.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.