Rydym yn hynod o falch i allu gweithio gyda phartneriaethau yma yn Ysgol Busnes Bangor. Mae gweithio gyda phartneriaethau yn galluogi ni wella safon ein hymchwil ac yn gwella'r profiad i fyfyrwyr drwy ddarlithoedd gwadd, tripiau i ymweld a busnesai a chyfleodd am brofiad gwaith. Dyma gip olwg sydyn ar sut rydym yn gweithio gyda rhai o'n partneriaethau yma yn yr ysgol.
Rydym yn hynod o falch i allu gweithio gyda phartneriaethau yma yn Ysgol Busnes Bangor. Mae gweithio gyda phartneriaethau yn galluogi ni wella safon ein hymchwil ac yn gwella'r profiad i fyfyrwyr drwy ddarlithoedd gwadd, tripiau i ymweld a busnesai a chyfleodd am brofiad gwaith. Dyma gip olwg sydyn ar sut rydym yn gweithio gyda rhai o'n partneriaethau yma yn yr ysgol.
Ein Partneriaethau Polisi a Llywodraethau
Ein Partneriaethau Busnesau ac Elusennau
Adborth Partner Addysg Weithredol
"Mae’r bartneriaeth sydd gan yr Asian Banking School â Bangor yn un yr ydym yn ei gwerthfawrogi’n fawr. Gan fod yr MBA Banciwr Siartredig yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl ar-lein, mae gallu cynnig y cymhwyster hwn i’n cleientiaid banc wedi rhoi dimensiwn arall i’r rhaglenni yr ydym yn eu cynnig. Ac mae'r unigolion sydd â diddordeb mewn cofrestru bob amser eisiau gwybod a ydynt yn gymwys i astudior’r llwybrau carlam.
Gellir dibynnu ar y tîm Addysg Weithredol ym Mhrifysgol Bangor bob amser i ymateb yn glir ac yn brydlon i’r ymholiadau hyn, ac i nifer o ymholiadau eraill. Ar yr ochr weinyddol, mae'r tîm hefyd wedi dangos proffesiynoldeb, dealltwriaeth, hyblygrwydd a thegwch, sydd bob amser yn ddefnyddiol ac yn gwneud ein gwaith ychydig yn haws."
Rafizah Abdul Rahman, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol
"Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad a’m canmoliaeth ddiffuant am y profiadau gwych yr wyf i a’r Sefydliad wedi’u cael mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ers 2011.
O'r cychwyn cyntaf, mae Prifysgol Bangor wedi rhoi arddangos proffesiynoldeb, arbenigedd, ac ymrwymiad gwirioneddol i ragoriaeth. Mae'r bartneriaeth yr ydym wedi'i ffurfio wedi bod yn gynhyrchiol ond mae hefyd yn hynod gyfoethog, gan gyfrannu'n sylweddol at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y Diwydiant Gwasanaethau Ariannol yma yn y Bahamas.
Drwy gydol ein cyfnod o ryngweithio, rydym wedi cael ein plesio'n gyson gan safon y dalent a'r ymroddiad a ddangoswyd gan gyfadran a staff Prifysgol Bangor. Mae dyfnder eu gwybodaeth, dulliau arloesol, a chefnogaeth ddiwyro wedi bod yn asedau amhrisiadwy i'n holl brojectau hyfforddi.
I gloi, hoffwn ddiolch o galon i bawb ym Mhrifysgol Bangor am eu cyfraniadau rhagorol, ac edrychaf ymlaen at barhau â’n cydweithrediad ffrwythlon am flynyddoedd i ddod."
Miguel Pratt, Cyfarwyddwr y Rhaglen
"Mae’r cydweithrediad gydag Ysgol Busnes Bangor yn ymestyn yn ôl cyn belled â 2011. Heb os, mae'r berthynas wedi bod yn un ffrwythlon, ac mae cyfanswm o 443 o ymgeiswyr wedi cymhwyso drwy’r rhaglen. Mae'r rhaglen MBA Banciwr
Siartredig newydd wedi derbyn cydnabyddiaeth ymhlith uwch reolwyr ac uwch swyddogion gweithredol yn y diwydiant bancio a chyllid oherwydd y cynnig unigryw o ddyfarniad triphlyg MBA Bancio a Chyllid, Statws Banciwr Siartredig y Deyrnas Unedig, a Banciwr Siartredig Nigeria."
Janet Olugbuyi, Meithrin Gallu, Ardystio a Safonau
“Fel sefydliad sy’n ymroddedig i ragoriaeth, mae’r Jamaica Institute of Financial Services yn ymfalchïo’n fawr yn ein partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yn enwedig y rhaglenni MBA Banciwr Siartredig ac MBA Cydymffurfiaeth a Throseddau Ariannol. Mae'r cydweithio hwn wedi cyfoethogi ein cynigion, yn ogystal â gwella datblygiad proffesiynol y diwydiant gwasanaethau ariannol yn Jamaica, a'r Caribî yn ehangach, yn sylweddol.
Mae’r Jamaica Institute of Financial Services yn edrych ymlaen at barhau â’r berthynas hon wrth i ni geisio parhau i ddatblygu gweithwyr proffesiynol hynod gymwys, hyderus, sydd â’r wybodaeth, y sgiliau a’r meddylfryd i lywio heriau ac ysgogi newid ystyrlon o fewn y diwydiant.”
Darlene Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol
"Rydym wedi cael y pleser o gydweithio â Phrifysgol Bangor i gyflwyno rhaglenni gweithredol o fri i farchnad Botswana. Gallaf ddweud yn hyderus bod eu hymroddiad i ragoriaeth a’n hymrwymiad i’n nodau cyffredin wedi bod yn allweddol i lwyddiant y bartneriaeth hyd yma. Mae tîm Addysg Weithredol Prifysgol Bangor yn gyson yn dangos arbenigedd, proffesiynoldeb, ac ymagwedd ragweithiol, ac maent bob amser yn rhagori ar ein disgwyliadau. Mae'r tîm wedi bod yn hynod gymwys a dibynadwy. Mae eu gallu i addasu i amgylchiadau newidiol a dod o hyd i ddatrysiadau arloesol i heriau wedi bod yn amhrisiadwy i'n partneriaeth. At hynny, mae'r llinellau cyfathrebu agored a'r cydweithio tryloyw wedi creu perthynas waith ddi-dor, sy'n ein galluogi i weithio tuag at ein hamcanion yn effeithlon ac yn effeithiol."
Changu Tshane