Fy ngwlad:
pic

Ymchwil Ysgol Busnes Bangor

Ymunwch â ni ar drywydd gwybodaeth a darganfyddiad.

Ein Canolfannau Ymchwil

Mae Ysgol Busnes Bangor yn gartref i ddwy Ganolfan Ymchwil.

Dysgwch fwy am ein Canolfannau Ymchwil a'u gweithgareddau a'u cyflawniadau amrywiol.

 Taflenni cyfrifyddu

Sefydliad Cyllid Ewropeaidd

Mae gan y Sefydliad Cyllid Ewropeaidd enw da byd-eang am ragoriaeth ymchwil mewn bancio, cyfrifeg a chyllid. Mae'n canolbwyntio ar ddeall rôl cyllid, yn ei ystyr ehangaf, wrth fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y mae'r byd yn eu hwynebu.

Hen Goleg, Ysgol Busnes Bangor

Rhanbarth - Canolfan Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy

Mae Rhanbarth – Canolfan Rhanbarthau ac Economïau Cynaliadwy – yn dwyn ynghyd gweithgareddau ymchwil amlddisgyblaeth yr Ysgol sy’n ymwneud â datblygiad rhanbarthol cynhwysol a chynaliadwy, yn ei holl ffurfiau.

REF 2021

Mae aelodau ein cyfadran yn ymchwilwyr medrus iawn, sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am eu cyfraniadau i'w meysydd. Maent yn cydweithio â rhwydweithiau o ymchwilwyr ledled Cymru, Ewrop a’r byd. Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf Llywodraeth y DU (REF2021), roedd 78% o’n hymchwil gyda’r gorau yn y byd (4*) neu’n rhagorol yn rhyngwladol (3*).

REF 2021 Case Study - Constraining the loyalty penalty and complexity costs in retail financial service markets

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Cyfyngu ar y gosb am deyrngarwch a chostau cymhlethdod

Darparodd yr Athro Ashton yr asesiad cyntaf o'r gosb am deyrngarwch, sef sut mae cwsmeriaid ffyddlon yn talu mwy na chwsmeriaid newydd; a chostau cymhlethdod, sef sut mae darparwyr yn codi prisiau cynhyrchion cymhleth, ym marchnadoedd gwasanaethau ariannol manwerthu'r Deyrnas Unedig.

REF 2021 Case Study - Interchange payment card fees and two-sided markets

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Ffioedd cyfnewid a marchnadoedd dwy-ochr: dylanwadu ar reoliad yr Undeb Ewropeaidd ar ffioedd cardiau talu

Bu i ymchwil ym Mhrifysgol Bangor gefnogi newid rheoliadol sylweddol mewn ffioedd cyfnewid a ffioedd masnachwyr cardiau talu yn yr Undeb Ewropeaidd rhwng 2013 a 2016. 

REF 2021 Case Study - Enabling effective and fast decision-making in organisations: forecasting with the Theta Method

ASTUDIAETH ACHOS REF 2021 Galluogi gwneud penderfyniadau effeithiol a chyflym mewn sefydliadau: rhagfynegi gyda'r Dull Theta

Mae ymchwil Nikolopoulos yn canolbwyntio ar ddadansoddi rhagfynegol gan ddefnyddio'r dull rhagfynegi Theta a ddatblygwyd ganddo. Mae ei ymchwil empirig ym Mhrifysgol Bangor wedi arwain at arbedion effeithlonrwydd sylweddol a gwell penderfyniadau i gwmnïau rhyngwladol trwy wella rhagolygon.

Seminarau Ymchwil Ysgol Busnes Bangor

Seminarau Ymchwil

Dyma’r holl benodau diweddaraf yn ein cyfres o seminarau ymchwil sy’n cynnwys siaradwyr gwadd a siaradwyr o'r Ysgol Fusnes yma ym Mangor.

Dyma’r holl benodau diweddaraf yn ein cyfres o seminarau ymchwil sy’n cynnwys siaradwyr gwadd a siaradwyr o'r Ysgol Fusnes yma ym Mangor.