Mae gennym ystafelloedd aros tymor byr sengl ar gael i fyfyrwyr, maent wedi'u lleoli ym Mhentref Ffriddoedd.
Dyma'r strwythur prisiau’r ystafelloedd hyn o 1 Medi 2024 ymlaen:
- Archebion am llai na 7 noson - £25 y noson
- Archebion am 7 noson a mwy - £24 y noson
- Ystafelloedd mewn fflat â gwasanaeth - £35 y noson (*mae hyn yn cynnwys dillad gwely, tywelion, sebon golchi’r corff/siampŵ a chyfleusterau gwneud te/coffi yn y gegin a rennir)
Sylwch mai lleoedd cyfyngedig sydd gennym ar gyfer fflat â gwasanaeth. Cynhelir gwasanaethau unwaith yr wythnos ar gyfer arosiadau am fwy na saith noson. Mae gwasanaethu ar gyfer arosiadau estynedig yn cynnwys newid y dillad gwely a’r tywelion, gwagio biniau’r ystafell wely a glanhau'r ystafell gwely a'r ystafell ymolchi yn ysgafn.
Mae ystafelloedd heb wasanaeth yn ystafelloedd en-suite safonol i fyfyrwyr, a disgwylir i breswylwyr ddarparu eu dillad gwely, tywelion, pethau ymolchi ac offer coginio eu hunain.
Mae Wifi ardderchog ar gael heb unrhyw gost ychwanegol. Mae hefyd cyfleusterau golchi dillad hunanwasanaeth ar gael ar y safle, y codir tâl amdanynt.
Mae’r ystafelloedd ar gael o 2yh a rhaid gadael yr ystafelloedd am 10yb. Os ydych yn teithio'n hwyr neu'n cyrraedd yn gynnar, byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer, cofiwch ofyn.
Mae gan bob ystafell wely sengl, ystafell ymolchi en-suite, desg a chwpwrdd dillad a droriau.
Mae pob cegin yn cynnwys popty, hob, tegell, tostiwr ac oergell-rhewgell a bwrdd smwddio a haearn smwddio.
Nid ydym yn derbyn taliadau arian parod, felly rhaid gwneud pob archeb ymlaen llaw a thalu amdano ar-lein neu dros y ffôn.
I wirio a oes ystafell ar gael ac i gael dyfynbris a chyswllt i wneud taliad ar-lein cyn i chi gyrraedd, llenwch y ffurflen ymholiad.
Ffôn: 01248 382667
Telerau ac Amodau – Arhosiad Tymor Byr
Rhaid i chi fod yn fyfyriwr cofrestredig llawn-amser ym Mhrifysgol Bangor i aros yn y llety tymor byr hwn. Ni ddylai fod gennych unrhyw ddyled sy'n ddyledus i'r Brifysgol.
- Darperir cyfleusterau gwneud te a choffi (yn y gegin a rennir)
- Dillad gwely, tyweli, a golch corff/siampŵ. (Gadewch y dillad gwely a'r tywelion yn yr ystafell wrth adael).
- Darperir y gwasanaeth unwaith yr wythnos ar gyfer arosiadau sy’n hwy na saith noson.
- Mae gwasanaethu ar gyfer arosiadau sy’n hwy na saith noson yn cynnwys newid y dillad gwely a’r tyweli, gwagio biniau’r ystafell wely a glanhau'n ysgafn yr ystafell wely a'r ystafell ymolchi.
Cewch ddefnyddio cyfleusterau’r gegin a rennir, sy'n cynnwys oergell, rhewgell, hob, popty, microdon, tostiwr, tegell, haearn smwddio a bwrdd smwddio.
Sylwer nad ydym yn darparu unrhyw offer cegin, llestri na chyllyll a ffyrc.
Caiff biniau'r gegin a’r ailgylchu eu gwagio deirgwaith yr wythnos ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Bydd y gegin yn cael ei glanhau'n ysgafn unwaith yr wythnos.
Chi sy'n gyfrifol am lanhau eich ystafell wely a'ch ystafell ymolchi en-suite. Cewch ddefnyddio cyfleusterau’r gegin a rennir, sy'n cynnwys oergell, rhewgell, hob, popty, microdon, tostiwr, tegell, haearn smwddio a bwrdd smwddio.
Nid ydym yn darparu unrhyw offer cegin, llestri na chyllyll a ffyrc.
Caiff biniau'r gegin a’r ailgylchu eu gwagio deirgwaith yr wythnos ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Bydd y gegin yn cael ei glanhau'n ysgafn unwaith yr wythnos.
Mae dau olchdy at ddefnydd gwesteion. Mae un ger Derbynfa’r Neuaddau, a'r llall gyferbyn â'r Swyddfa Ddiogelwch. Gall myfyrwyr naill ai ddefnyddio'r system talu-wrth-fynd neu greu cyfrif credyd gyda'r ap Circuit ar gyfer golchi/sychu.
Cysylltwch â’r Swyddfa Neuaddau os oes gennych unrhyw ofynion penodol o ran hygyrchedd.
Ceir Rhaid i geir sy’n parcio ar dir y brifysgol arddangos trwydded barcio ddilys. Sylwer na chaiff Myfyrwyr barcio ym maes parcio Canolfan Brailsford. Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://my.bangor.ac.uk/property-and-campus-services/student-permits.php.cy
2yh – 5yh Casglwch allwedd eich ystafell o Swyddfa’r Neuaddau ar ôl 2yh ar y diwrnod y byddwch yn cyrraedd. Ein cyfeiriad yw Swyddfa’r Neuaddau, Idwal, Bangor LL57 2GP.
Os ydych yn cyrraedd ar ôl 5yh, gallwch gasglu eich allwedd o’r Swyddfa Ddiogelwch ar Safle’r Ffriddoedd, sydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Rhowch wybod i ni os ydych yn mynd i gyrraedd ar ddyddiad gwahanol i'r dyddiad cyrraedd.
Rhaid i chi ddychwelyd eich allweddi i Dderbynfa’r Neuaddau erbyn 10:00am ar y diwrnod y byddwch yn gadael.
Os hoffech ymestyn eich arhosiad, rhaid gwneud hyn cyn 4yh y diwrnod gwaith cyn eich dyddiad gadael.
Rhaid talu ymlaen llaw ar-lein neu ar y ffôn. Ni allwn dderbyn taliadau arian parod.
Bydd angen taliad trwy ffonio'r Swyddfa Neuaddau cyn 4.00pm Llun-Gwener (ac eithrio gwyliau banc/dyddiau coleg) am unrhyw archeb o fewn 24 awr o'r dyddiad cyrraedd.
Mae Wi-Fi ar gael yn rhad ac am ddim trwy gysylltu ag Eduroam.
Mae system wresogi 'ar gais' ychwanegol effeithlon wedi'i gosod yn yr ystafelloedd. Mae'r holl adeiladau wedi'u hinswleiddio'n dda ac yn cael eu gwresogi i dymheredd amgylchol cefndirol 24 awr y dydd. Gwnewch yn siŵr fod soced y gwresogydd ymlaen cyn rhoi gwybod am unrhyw broblemau gwresogi. Yn ogystal, peidiwch byth â gorchuddio gwresogyddion trydan a rhoi unrhyw beth drostynt nac yn agos atynt i sychu oherwydd gallent losgi, a gallai hynny achosi perygl tân.
Sylwch nad oes offer aerdymheru yn yr ystafelloedd.
Os ydych wedi archebu arhosiad sy’n hwy na 7 diwrnod, bydd modd casglu post o'r ystafell bost. Bydd parseli'n cael eu dosbarthu i'r loceri parseli ar y safle, sydd wedi'u lleoli wrth ymyl y Dôm Chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford. Cewch hysbysiad e-bost gan yr ystafell bost os oes gennych barsel i'w gasglu.
Mae'r brifysgol y gwahardd ysmygu a theclynnau ysmygu trydan yn adeiladau'r brifysgol ac o fewn 5 metr iddynt.
Mae'r ystafelloedd ar gyfer defnydd sengl yn unig, ni chaniateir gwesteion dros nos.
Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
Yr oedran ieuengaf ar gyfer aros yw 18.
Ni ellir lletya plant yn yr eiddo.
Peidiwch â defnyddio erosolau yn agos at synwyryddion mwg. Caiff y larwm tân ei brofi'n wythnosol yn y prynhawn a byddant yn seinio am gyfnod byr yn unig. Os clywch y larwm tân ar unrhyw adeg arall, neu os yw'n seinio'n barhaus, ewch allan o'r adeilad fel y nodir bellach lawr ar y wefan hon yn yr secsiwn MEWN ARGYFWNG / TÂN.
Darllenwch Drefn Gwacáu’r Adeilad Os Bydd Tân sydd yn eich ystafell a chadwch y llwybrau tân a’r Allanfeydd Tân yn glir bob amser. Yn ogystal, peidiwch â llosgi canhwyllau, arogldarth na dim byd tebyg, a
pheidiwch BYTH â gorchuddio’r synwyryddion mwg. Gofynnir i westeion sy'n gorchuddio’r synwyryddion adael ar unwaith.
Cadwch ddrws yr ystafell gawod ar gau. Gall stêm y dŵr poeth seinio’r larwm tân.
Dim ond offer trydanol arferol, megis peiriannau sychu gwallt, eillio, gliniaduron a gwefru ffonau all gwesteion eu defnyddio. Cofiwch ddiffodd pob teclyn ar ôl ei ddefnyddio a pheidiwch byth â'u gadael pan na fyddwch yno e.e. sychwyr gwallt, gwefrwyr ffonau symudol a gliniaduron. Os cewch broblem gydag offer trydanol y brifysgol, cysylltwch â Swyddfa’r Neuaddau, Llun - Gwener, 9am - 5pm. Y tu allan i'r oriau hyn, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch.
Caewch ddrws eich ystafell wely a drws eich fflat bob amser. Peidiwch â gadael pethau gwerthfawr yn y golwg a chysylltwch â’r Staff Diogelwch yn syth os oes gennych bryderon neu os gwelwch rywbeth amheus.
Peidiwch â gadael eitemau personol yn y coridorau na'r gegin. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i anfon unrhyw eiddo a adewir ar ôl yn ôl at y gwesteion, ceir gwared ar eitemau na chaiff eu hawlio o fewn 3 mis.
Mewn argyfwng (e.e. Cymorth Cyntaf) ffoniwch y Tîm Diogelwch ar 2795 os ydych yn defnyddio'r ffôn yng nghyntedd yr adeilad, neu'r rhifau 01248 uchod os ydych yn defnyddio ffôn symudol. Mae 3333 yn cysylltu â’r Tîm Diogelwch hefyd ac yn cyfateb yn y brifysgol i 999.
Os gwelwch fod tân:
- Seiniwch y larwm yn y blwch larwm agosaf a gadael yr adeilad yn syth.
Os bydd y larwm tân yn seinio:
- Peidiwch â defnyddio’r lifft.
- Gadewch yr adeilad trwy’r Allanfa Dân agosaf (peidiwch â stopio i gasglu eitemau personol).
- Ewch i’r Man Ymgynnull a disgwyl am gyfarwyddiadau pellach.
- Peidiwch byth â mynd yn ôl i'r adeilad nes fod hynny wedi'i awdurdodi gan y frigâd dân neu staff diogelwch y brifysgol. Os na allwch adael yr adeilad trwy ddefnyddio'r grisiau:
- Ewch i'r Man Aros Diogel.
- Defnyddiwch y system - mae'n cysylltu â'r Tîm Diogelwch.
- Disgwyliwch am gyfarwyddyd pellach gan y staff diogelwch.
Nid oes ad-daliad am unrhyw gyfnod o absenoldeb nac am adael yn gynnar.
Rhaid canslo 2 wythnos cyn noson gyntaf eich arhosiad i fod yn gymwys i gael ad-daliad. Rhoddir addaliad llawn i rai sy’n canslo cyn hynny a bydd yr ad-daliad yn cymryd 21 diwrnod i’w brosesu.
Sylwch eich bod yn rhwym wrth Reoliadau Cyffredinol y Brifysgol a’r Cod Ymddygiad Myfyrwyr https://www.bangor.ac.uk/regulations/regulations/documents/BUReg13-2019v1.4-CY.pdf