Fy ngwlad:

Pentref y Santes Fair

Myfyrwyr yn cymdeithasu tu fewn i un o'r fflatiau ym Mhentref y Santes Fair

Pam dewis Pentref Myfyrwyr Y Santes Fair?

  • Gyda tua 650 o ystafelloedd, mae ei faint llai yn meithrin cymuned gartrefol.
  • Cynllun wedi'i ddylunio i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wneud ffrindiau a chymdeithasu.
  • Mewn amgylchedd tawel, mae'r lleoliad distawach hwn yn ddelfrydol ar gyfer astudio a ymlacio.
  • Mewn safle uchel, gyda golygfeydd ysblennydd dros y ddinas.
  • Wedi'i leoli'n gyfleus yn agos at y rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.
  • Amrywiaeth o opsiynau ystafelloedd ar gyfer gwahanol anghenion a chyllidebau.
  • Mae ystafell ffitrwydd ar gael ar gyfer ymarfer corff cyfleus, a bydd gennych aelodaeth o'r gampfa/canolfan chwaraeon yn Ffriddoedd.
  • Rydym yn tanysgrifio i God Llety Myfyrwyr Prifysgolion y DU, sydd wedi'i gynllunio i ddiogelu eich hawliau i lety diogel o ansawdd da.

CYMRWCH DAITH RITHIOL O BENTREF Y SANTES FAIR

Archwiliwch Bentref y Santes Fair o gysur eich soffa. Am brofiad cwbl ymdrochol, defnyddiwch eich penset VR a'i wylio ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas a'r eicon chwyddo i gael golwg agosach. Mae'r eicon cartref yn mynd â chi'n ôl i'r man cychwyn. Os oes taith dywysedig ar gael, defnyddiwch y botwm chwarae i’w dechrau.

Cyfleusterau ym Mhentref Y Santes Fair

  • Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
  • Diogelwch 24/7
  • Mynediad cerdyn/allwedd diogel
  • Barlows
  • Siop 
  • Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
  • Ystafell ffitrwydd
  • Ystafell gyfrifiaduron
  • Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
  • Wi-Fi cyflym
  • Ystafelloedd cyffredin
  • Ystafell sinema
  • Golchdy
     
  • Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (£20)

MEWN SAFLE CYFLEUS SY'N EDRYCH DROS FANGOR

St Mary’s Quad - Bangor University

Cwad y Santes Fair - Prifysgol Bangor

Amser cerdded bras o Bentref y Santes Fair i:

  • Prif adeilad y Celfyddydau – 15 munud o gerdded (Bangor Uchaf) 
  • Gwyddorau Iechyd – 15 munud o gerdded (Fron Heulog, Bangor Uchaf)  
  • Llyfrgell Gwyddorau a'r Llyfrgell  – 10 munud o gerdded (Ffordd Deiniol, canol y ddinas) 
  • Cyfrifiadureg a Pheirianneg – 15 munud o gerdded (Stryd y Deon, canol y ddinas) 
  • Ysgol Busnes – 15 munud o gerdded (Bangor Uchaf) 
  • Gwyddorau Eigion – 1 awr o gerdded (Porthaethwy) 
  • Pontio – 10 munud o gerdded (canol y ddinas) 
  • Morrisons – 15 munud o gerdded (Bangor Uchaf) 
  • Asda – 10 munud o gerdded (canol y ddinas) 
  • Lidl – 10 munud o gerdded (canol y ddinas) 
  • M&S – 10 munud o gerdded (canol y ddinas) 
  • Iceland – 40 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon) 
  • Farmfoods – 30 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon) 
  • Aldi – 40 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon) 
  • Tesco – 45 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon) 
  • Waitrose – 1 awr o gerdded (Porthaethwy)
  • Siop gyfleus Pentref y Santes Fair – ar y safle
  • Stryd Fawr – 10 o gerdded (canol y ddinas) 
  • Siopau tu allan i'r ddinas – 30 o gerdded (Ffordd Caernarfon) 
  • Bar Uno – 15 o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
  • Academi – 10 o gerdded (canol y ddinas) 
  • Mae bariau, tafarndai a chlybiau eraill wedi eu lleoli ym Mangor Uchaf a chanol y ddinas.
  • Ystafell fitrwydd Pentref y Santes Fair – ar y safle
  • Canolfan Chwaraeon Brailsford – 15 munud o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
  • Caeau chwaraeon Treborth – 50 munud o gerdded (wedi eu lleoli wrth Pont Menai) 
  • Barlows shop and café – ar y safle
  • Bar Uno - 15 munud o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
  • Caffi Cegin - 10 munud o gerdded (Pontio, canol y ddinas) 
  • Caffi Teras - 15 munud o gerdded (Prif Adeilad y Celfyddydau, Bangor Uchaf)  
  • Caffis lleol wedi eu lleoli ym Mangor Uchaf, canol y ddinal ac ym Mhorthaethwy.
  • 10 munud o gerdded (canol y ddinas)  
  • 20 munud o gerdded (Bangor Uchaf)
  • 30 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
  • 1 awr o gerdded (Porthaethwy) 
  • Meddygfa – 15 o gerdded (yn agos at ganol y ddinas)
  • Fferyllfa - 10 o gerdded (canol y ddinas)
  • Ysbyty – 45 o gerdded (Penrhosgarnedd)
  • Bws - 10 munud o gerdded
  • Gorsaf Drenau – 10 munud o gerdded
  • Tacsis - 10 munud o gerdded (canol y ddinas neu gorsaf drenau)

Gwybodaeth Bwysig am Neuaddau

Mae'r wybodaeth a gyflwynir ar y dudalen hon ynglŷn ag opsiynau llety'r Brifysgol, gan gynnwys disgrifiadau, ffotograffau, cynlluniau llawr, a chyfleusterau, wedi'i bwriadu fel canllaw cyffredinol a gall fod yn destun newid. Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, nid yw'r Brifysgol yn gwarantu ei bod yn gyflawn nac yn gyfredol. Mae argaeledd llety, nodweddion penodol, a chyfraddau rhent yn destun newid heb rybudd. Anogir darpar breswylwyr i gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau yn uniongyrchol i gadarnhau manylion penodol ac argaeledd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu opsiynau llety yn ôl yn ôl ei disgresiwn.