Myfyrwyr PhD Prifysgol Huazhong yn ymweld â'r Ganolfan DSP

Ddydd Iau 5 Hydref, croesawyd dau fyfyriwr PhD o’r Ysgol Gwybodaeth Optegol ac Electronig, Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Huazhong, fel cyfle i nodi meysydd posibl o ymchwil ar y cyd, wrth iddynt ddychwelyd o’r Gynhadledd Ewropeaidd ar Gyfathrebu Optegol (ECOC2023) yn Glasgow.

Rhoddodd Linsheng Zhong a Sun Zhang drosolwg i'r tîm o'u hymchwil a'u canfyddiadau, gan ganolbwyntio'n benodol ar eu hymchwil i systemau optegol amser real. Yna rhannodd ein myfyrwyr PhD a Meistr, Omaro Gonem, Luis Vallejo Castro, Jiaxiang He, Isaac Osahon, Jasmine Parkes, Piotr Franscak a Mathew Purnell, eu harbrofion ymchwil, gyda rhai arddangosiadau byw o'n technegau Diogelwch Haen Corfforol, LiFi, Synhwyro a XR .

Hyfryd oedd croesawu Linsheng a Sun i’r Ganolfan DSP a Phrifysgol Bangor, ac edrychwn ymlaen at edrych ymlaen at barhau â’r trafodaethau ar fentrau ymchwil ar y cyd.

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?