Trwy eich cefnogaeth chi gallwn siapio'r dyfodol...

Mae anghenion ariannol y Brifysgol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac mae’n derbyn cyllid o lawer o wahanol ffynonellau ar gyfer ei gwahanol feysydd gwaith.
Mae cymynroddion digyfyngiad at ddibenion cyffredinol yn rhoi hyblygrwydd i Fangor fuddsoddi yn y rhaglenni a’r cyfleusterau y mae mwyaf o’u hangen pan dderbynnir rhoddion. Bydd eich cymynrodd at ddibenion cyffredinol yn sicrhau rhagoriaeth Bangor yn y dyfodol a’i gallu i gystadlu mewn byd cyson gyfnewidiol.
Efallai bod maes arbennig yn agos at eich calon – megis ysgol academaidd, rhaglen ymchwil neu’r Llyfrgell – neu efallai yr hoffech sicrhau bod eich enw chi neu enw aelod o’ch teulu yn cael ei gofio drwy gyllido gwobr neilltuol.
Dros amser bydd ysgolion/colegau academaidd a meysydd ymchwil yn newid; felly, mae’n werth osgoi pennu dibenion penodol iawn ar gyfer eich rhodd gan y gallai hynny atal ei defnyddio. I osgoi sefyllfa felly, efallai yr hoffech ystyried cynnwys darpariaeth yn eich ewyllys sy’n caniatáu i’r Brifysgol ddefnyddio eich cymynrodd mewn maes cyffelyb, neu lle mae angen brys am gefnogaeth ariannol. Bydd tîm y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau’n barod iawn i drafod sut y gall Bangor gadw at eich dymuniadau.
Trwy adael cymynrodd i Fangor gellwch leihau gwerth trethadwy asedion eich ystâd ac felly leihau swm y dreth etifeddu sy’n ddyledus. Mae gan Brifysgol Bangor statws elusennol llawn ac mae holl roddion a chymynroddion i’r Brifysgol wedi eu heithrio’n llwyr o dreth etifeddu y Deyrnas Unedig. 1141565 yw Rhif Elusen Comisiwn Prifysgol Bangor.
Os ydych yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig gofynnwch i’ch cynghorwr am wybodaeth bellach ar statws treth cymynroddion a wneir i elusennau yn y DU.
Cymynroddion - Enghreifftiau o roddion caredig
Sut y gallwn weithio gyda chi i anrhydeddu eich dymuniadau?
Gweler y dolenni isod am fanylion ar sut y gallwn weithio gyda chi i anrhydeddu eich dymuniadau.
I gael rhagor o wybodaeth am adael cymynrodd, cysylltwch â, Persida Chung, Swyddog Datblygu cymynroddion@bangor.ac.uk.
Gwiriwch ein llyfryn am ragor o wybodaeth
Rhannwch eich stori hefo ni
Mae gan lawer o'n cymynroddwyr gysylltiad unigryw â’r brifysgol. Efallai eich bod wedi ffurfio cyfeillgarwch parhaol neu wedi cwrdd â’ch partner yma. Efallai bod eich gradd wedi bod yn gatalydd i yrfa lwyddiannus.
Neu efallai bod gennych atgofion melys yr hoffech eu rhannu. Beth bynnag fo'ch rheswm, byddem wrth ein bodd yn clywed y stori y tu ôl i'ch rhodd.