Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn cynnal ymgyrch Telethon Cronfa Bangor bob blwyddyn yn y gwanwyn a’r hydref, am bedair wythnos o nosweithiau Sul hyd nosweithiau Iau.
Yn ystod yr ymgyrchoedd hyn, bydd ein tîm o fyfyrwyr yn ffonio cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad â nhw, hel atgofion ac er mwyn iddyn nhw fedru cefnogi eu hen brifysgol.
Fel rhan o gymuned y cyn-fyfyrwyr fe gewch alwad ffôn gan un o’n myfyrwyr a fydd yn sgwrsio â chi am eich cyfnod ym Mangor ac am Gronfa Bangor.
Nod Cronfa Bangor yw cefnogi cymaint o brojectau â phosib a galluogi’r brifysgol i ychwanegu rhagoriaeth neu “rywbeth ychwanegol” at brofiad y myfyrwyr.
Yn ddiweddar cwblhaodd ein tîm o fyfyrwyr ein hymgyrchoedd telethon gwanwyn yn ddeweddar gyda chanlyniadau gwych. Mae ein cyn-fyfyrwyr gwych wedi addo rhoi £67,000 pellach i Gronfa Bangor dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y rhoddion hyn yn caniatáu i Gronfa Bangor ddarparu bwrsariaethau, teithiau maes, gweithgareddau llesiant, cyfleoedd chwaraeon a gwasanaethau ychwanegol, ac mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol!
Dywedodd Persida Chung, Swyddog Datblygu, “Eleni, wrth i’r Brifysgol dathlu cant a deugain o flynyddoedd ers ei sefydlu, byddwn yn canolbwyntio ar greu ystod o Ysgoloriaethau 140 Mlynedd. Nod yr ysgoloriaethau hyn yw sicrhau y gall myfyrwyr o bob cefndir ariannol astudio ym Mangor. Ein nod yw cefnogi cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr Bangor drwy'r fenter hon.”
Dyma rai o’r mentrau a gefnogir gan Gronfa Bangor y flwyddyn academaidd hon:
-
Chwaraeon Bangor: Prynu llochesi symudol i'w defnyddio gan glybiau chwaraeon myfyrwyr a chymunedol
-
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg: Cyfrannu at wobrau Hyfforddiant Arweinyddiaeth Arloesi Prifysgol Bangor (BUILT)
-
Undeb y Myfyrwyr: Darparu gweithgareddau llesiant grŵp i fyfyrwyr ac arweinwyr myfyrwyr
-
Ysgol Gwyddorau'r Eigion: Adluniad o'r peiriant rhagfynegi tonnau a ddyluniwyd gan Jack Darbyshire, a oedd yn fyfyriwr ym Mangor,
-
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Bwrsariaethau i fyfyrwyr Coedwigaeth deithio i'r Almaen
-
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Modelau anatomegol ar gyfer myfyrwyr Sŵoleg
-
Undeb y Myfyrwyr: Helpu’r Clwb Cychod i brynu dau gwch rhwyfo newydd
-
Ysgol Gwyddorau'r Eigion: Project acwariwm
-
Archifau a Chasgliadau Arbennig Project Diogelu Hanes Pensaernïol
-
Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Cyfraniad at gynhyrchu'r gyfrol Cofion: Bywyd John Ellis
-
Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Project Llunio Hunaniaeth Leol a Chenedlaethol yng Nghymru
-
Yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Gweithdai cyfansoddi gyda Sinfonia Cymru ac Ensemble Canolfan Gerdd Williams Mathias
-
Ysgol Gwyddorau'r Eigion: Creigiau Bywyd Gwyllt – bwrdd arddangos dwyieithog ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus yr Ysgol
-
Undeb y Myfyrwyr: Cynhyrchu llyfr i ddathlu pen-blwydd UMCB yn 50 oed yn 2026
I wybod mwy am yr ymgyrch delethon, cysylltwch â Persida.
Diolch i bawb ohonoch sy'n rhoi!
Tîm o alwyr myfyrwyr yn estyn allan at ein cyn-fyfyrwyr yn ystod ymgyrch Telethon
Rydyn ni wir yn mwynhau ein hamser yn sgwrsio gyda'n cyn-fyfyrwyr. Mae gwella profiad myfyrwyr yn bwysig i ni ac rydym yn ddiolchgar i'n cyn-fyfyrwyr sy'n cefnogi Cronfa Bangor i gefnogi Prifysgol Bangor i'n galluogi i gael profiad myfyrwyr gwerth chweil.
Rwy'n mwynhau sgwrsio gyda'n cyn-fyfyrwyr a chlywed eu profiadau fel myfyrwyr. Rwy'n fyfyriwr trydedd flwyddyn yn gwneud fy nhraethawd hir ac ar fin gwneud penderfyniadau mawr yn fy mywyd, ac mae'n wych clywed eu syniadau a'u cyngor
Rwy'n mwynhau gwrando ar eu hoff atgofion ym Mangor, dyma fy mlwyddyn olaf yma ac rydw i wir yn dysgu llawer o sgwrsio gyda'n cyn-fyfyrwyr.