Manteision i ddefnyddio tudalennau gwe i gyhoeddi gwybodaeth
Yn hytrach na chyhoeddi dogfennau ar-lein fel PDF a Microsoft Word, y ffordd orau i gael cynnwys hygyrch yw trwy arddangos y wybodaeth ar dudalennau gwe.
Yn ogystal â’i wneud yn fwy hygyrch i bobl, mae’r manteision canlynol i gyhoeddi’r cynnwys ar dudalen we (yn hytrach na dogfen PDF/Word):
- Gall unrhyw newidiadau gael ei wneud yn sydyn drwy olygu'r dudalen we
- Mae'n haws darganfod y wybodaeth wedi ei roi mewn html nag mewn dogfen PDF/Word a bydd gyda safle chwilio Google uwch hefyd
- Mae gan dudalennau gwe ddyluniad ymatebol a byddant yn ffitio sgrin y defnyddiwr yn ôl y ddyfais / porwr
- Gall y defnyddiwr lywio ei ffordd o amgylch y wefan trwy'r ddewislen, tra efallai nad oes gan ddogfen PDF/Word y dolenni perthnasol er mwyn gallu mynd yn ôl
Testun amgen i luniau
Mae testun amgen (testun amgen) yn ddisgrifiad o ddelwedd neu gynnwys arall nad yw'n destun ar dudalen we. Gall defnyddio delweddau ar dudalennau gwe wneud cynnwys yn fwy deiniadol ac yn haws ei ddeall. Er mwyn sicrhau hygyrchedd i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg, mae'n bwysig darparu gwybodaeth i ddisgrifio'r ddelwedd. Nid yn unig y bydd yn helpu i fodloni safonau hygyrchedd, ond gall testun amgen helpu pob defnyddiwr i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n cael ei bortreadu ar y dudalen.
Dylai'r testun alt gynnwys y canlynol:
- Disgrifiad cywir: Dylai'r testun alt ddisgrifio'n gywir gynnwys y ddelwedd neu'r cynnwys nad yw'n destun. Mae hyn yn helpu defnyddwyr â nam ar eu golwg i ddeall yr hyn y mae'r ddelwedd yn ei gyfleu
- Briff: Dylai'r testun alt fod yn gryno ac i'r pwynt, oherwydd gall disgrifiadau hirach fod yn anodd i ddarllenwyr sgrin eu prosesu. Canllaw cyffredinol yw cadw testun alt o dan 125 lythrennau
- Osgoi ymadroddion diangen: Dylech osgoi ymadroddion fel "delwedd o" neu "graffig o" yn y testun alt gan nad yw'r rhain yn ychwanegu unrhyw wybodaeth ychwanegol ac yn cymryd gofod y nifer o lythrennau
- Darparu cyd-destun: Mewn rhai achosion, gall darparu cyd-destun ar gyfer y cynnwys fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft, os yw delwedd yn siart neu graff, gallai'r testun alt ddisgrifio'r hyn y mae'r siart neu'r graff yn ei ddangos
- Gadael y testun alt yn wag ar gyfer delweddau addurniadol: Os defnyddir delwedd at ddibenion addurniadol yn unig ac nad yw'n cyfleu unrhyw wybodaeth ystyrlon, dylid gadael y testun alt yn wag neu ddefnyddio alt="". Bydd darllenwyr sgrin wedyn yn neidio dros y delweddau hyn, gan arbed amser ac osgoi dryswch i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg
Trwy ddilyn y canllawiau hyn, gallwch sicrhau bod yr holl ddelweddau a chynnwys di-destun ar eich gwefan yn hygyrch i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg.
Creu Dogfennau Hygyrch
Os nad yw hyn yn bosibl a bod rhaid cyhoeddi'r wybodaeth mewn PDF neu Word, dyma rai awgrymiadau defnyddiol:
- Gosodwch strwythur ar gyfer y ddogfen sy'n cynnwys penawdau
- Cadwch yr iaith yn syml a phlaen - ysgrifennwch mewn brawddegau byr a chlir
- Dewisiwch ffont plaen
- Enwch a disgrifiwch y delweddau yn y ddofgen
- Ceisiwch osgoi defnyddio tablau yn y ddogfen
- Defnyddiwch gwiriwr adeiledig o fewn y PDF/Word er mwyn sicrhau hygyrchedd eich dogfen
Mae modiwlau dysgu ar y testun hygyrchedd gan Microsoft ar gael i'ch helpu i greu deunydd hygyrch.
Lliw a Chyferbyniad
Nid yw phob defnyddiwr yn gallu gweld lliw a chyferbyniad yr un fath a'i gilydd. Gall pobl gyda golwg gwan, ddallineb lliw neu sy'n defnyddio arddangosiadau unlliw gael problemau gyda lliw a chyferbyniad ar sgriniau neu ddyfeisiau.
Wrth greu dogfennau, mae'n bwysig sicrhau bod cyferbyniad cywir i'r lliwiau wedi'i ddewis. Mae gwefannau ar gael all roi syniad i chi os yw'r lliwiau'n darparu cyferbyniad digonol.
Gyda theclyn gwirio, mae modd i chi weld cyferbyniad dau liw yn hawdd drwy ddefnyddio teclyn i ddewis yr union liw (eyedropper). Gall hefyd nodi beth fydd yn cydymffurfio â lefel AA ac AAA.
Gwiriwr Cyferbyniad lliw gan webaim
Gellir defnyddio'r teclyn yma i roi'r cyfatebiad lliw agosaf i chi a fydd yn cwrdd â lefel cydymffurfiaeth AA ac AAA.
Tiwtorialau
[0:00]
Helo tro'ma fyddai'n dangos i chi sut mae gwneud adroddiad hygyrchedd yn defnyddio Word ar y Mac. Yn gyntaf,
[0:08]
agorwch y ddogfen, wedyn fedrwch chi fynd i Review yn y top yn fama
[0:13]
a mi wneith o agor y bar yma i chi a mae Check Accessibility yn dod fyny yn fana. Cliciwch arno fo a mae'r canlyniadau yn dod fyny ar
[0:21]
yr ochr dde yn fama a wedyn fedrwch chi agor y tabs bach yma i weld mwy o wybodaeth am y pethau sydd wedi methu yn y prawf hygyrchedd
[0:32]
Mi fydd y fideos eraill yn dweud wrtha chi mewn fwy o fanylder sut i ddatrys y problemau mwyaf cyffredin yn y math yma o beth.
[0:39]
Diolch
[0:01]
Helo, Anwen 'dwi a 'dwi am ddangos i chi heddiw 'ma
[0:04]
sut i wneud Adroddiad Hygyrchedd trwy ddefnyddio Adobe Acrobat.
[0:10]
Felly, agorwch eich dogfen, a defnyddiwch y rhestr yma ar y dde neu teipiwch "accessibility"
[0:18]
i mewn yn y "search" yn fama tan da chi'n dod o hyd i Accessibility Check, wedyn cliciwch arno fo a gewch chi'r ffenestr bach yma i fyny.
[0:28]
Gwnewch yn siwr fod y rhestr yma wedi cael ei ticio i gyd a wedyn gallwch glicio ar Start Checking ar y gwaelod.
[0:38]
Mae o wedi creu'r adroddiad bach yma i chi ar y chwith. Fedrwch chi weld mwy o fanylion
[0:42]
wrth agor y tabs bach yma. Fel da chi'n gweld mae na dri peth wedi
[0:48]
cael eu codi o ran hygyrchedd yn y ddogfen yma. Mi fyddai'n dangos i chi
[0:53]
yn y fideos eraill sut i fynd ati i wirio'r materion mwyaf cyffredin felly gwyliwch y fideos hynny i wybod mwy. Diolch
[0:02]
Felly os yda chi wedi gwneud adroddiad hygyrchedd ar eich dogfen Word
[0:06]
yn defnyddio'r Mac a mae o wedi dod fyny bod y Teitl wedi methu'r prawf hygyrchedd,
[0:13]
Properties lawr yn y gwaelod - clicio ar hwnna
[0:21]
Mynd i Summary yn fama a gewch chi weld fod y Teitl yn wag
[0:26]
Felly os dwi'n rhoi teitl i mewn a pwyso ok
[0:33]
a wedyn mynd i Review yn y top
[0:35]
Pwyso Check Accessibility eto a newch chi weld bod o'n dweud bod na ddim materion o gwbl wedi eu ffeindio
[0:43]
efo hygyrchedd felly mae hwnna rwan wedi pasio.
[0:02]
Helo. Dwi am ddangos i chi sut i wneud adroddiad hygyrchedd ar eich dogfen yn defnyddio Word.
[0:08]
Felly, agorwch y ddogfen. Wedyn, mi allwch chi fynd i File yn fan hyn, wedyn mynd i Info Tab.
[0:22]
Wedyn mynd i Inspect Document, cliciwch ar hwnna a da chi angen clicio ar Check Accessibility. Cliciwch ar hwnna.
[0:34]
A fel da chi'n gweld ar yr ochr dde yn fan yna, fe wnewch chi weld y canlyniadau.
[0:40]
Wrth agor y tab, fe allwch chi weld y nifer o broblemau sydd cael ei ddangos yn fama.
[0:50]
Ac yn y fideos eraill fyddai'n dangos i chi, fyddai'n dangos i chi sut i drwsio a datrys y problemau mwyaf cyffredin sy'n codi pan mae hyn yn digwydd.
[0:01]
Yn y fideo yma dwi am ddangos i chi sut mae mynd ati i ddatrys un mater hygyrchedd sy'n codi'n eithaf aml sef
[0:07]
problem efo'r teitl o fewn y ddogfen.Fel y gwelwch chi yn y ddogfen yma,
[0:13]
os dwi'n agor y tab sy'n dangos fod 'na 3 mater wedi codi efo hygyrchedd. Os dwi'n agor hwnna,
[0:20]
mae o'n dweud fod y teitl wedi methu felly os dwi'n clicio efo'r ochr dde ar hwnna, mi wneith yr opsiynau yma ddod i fyny ac os dwi'n clicio ar Fix yn fanna,
[0:32]
mi wneith y ffenestr fach yma ddod fyny felly be dwi angen ei wneud rwan ydi tynu'r tic bach yma allan o "leave as is" ac yna yn y blwch bach yma
[0:44]
sydd wrth ochr y gair teitl, dwi angen teipio'r teitl i mewn felly yn yr engraifft yma....
[0:58]
a wedyn os dwi'n gadael hwnna heb tic,
[1:02]
felly gadael hwnna'n wag a pwyso OK, newch chi weld ar y chwith rwan mae'r wybodaeth ar y chwith wedi newid a mae o'n dweud rwan fod y
[1:10]
Teitl wedi pasio'r prawf hygyrchedd
[1:15]
Felly dyna ni, mae'r broblem yna wedi ei ddatrys rwan.
[0:04]
Helo. Yma dwi am ddangos i chi sut i drwsio Teitl, ac ei wneud yn hygyrch ar gyfer eich dogfen Word.
[0:14]
Felly agorwch y ddogfen, wedyn byddwhc angen clicio ar File, wedyn clicio ar y tab Info fama,
[0:25]
ac ar yr ochr dde fama, be ddylwch chi ei weld ydi Properties yn fama ac fe welwch y gair Title yn fama.
[0:34]
Wedyn mi fedrych chi glicio ar hwnna a wedyn rhoi teitl addas iddo.
[0:46]
Felly mi wnai hynna yn gyflym yn fama.
[0:56]
Dyna fo. Ac ar ol hynna, safiwch o, a dyna ni. Mae hynna wedi datrys y broblem Teitl.