Fy ngwlad:

Hygyrchedd Digidol: Lluniau

Llwytho lluniau i system Drupal

Pan fydd y llun yn barod, ac ei faint ddim mwy na 2MB, gallwch ei lwytho i Drupal (os oes gennych fynediad i'r system).

  • Clicio ar Content (cynnwys), yna Media
  • Add Media (ychwanegu'r delwedd i'r system)
  • Choose Image (delwedd)
  • Language (iaith) – dewis Cymraeg neu Saesneg
  • Name (enw) – rhoi'r teitl i mewn
  • Alternative text (testun amgen)– rhoi disgrifiad o be sydd yn digwydd yn y ddelwedd
  • Caption (capsiwn) – dewis yr opsiwn yma os hoffech chi weld y testun o dan y ddelwedd
  • Credit (cydnabyddiaeth)– mae modd i chi nodi fan hyn os oes gan berson/fudiad hawl i'r ddelwedd
  • Year published – (y flwyddyn gyhoeddwyd) – dewis y flwyddyn cafodd y fideo ei greu
  • Tags (tagiau) – sicrhau fod y tagiau perthnasol wedi cael eu dewis (h.y. Coleg Academaidd, Ysgol, Pwnc ayb).
  • Save (cadw)
Students socialising near Pontio

Enghraifft

Wrth uwchlwytho'r ddelwedd i Drupal, yn yr adran testun amgen, rhowch ddisgrifiad syml o'r hyn y mae'r ddelwedd yn ei ddangos.

e.e. Myfyrwyr yn eistedd tu allan ar y grisiau ger adeilad Pontio ym Mangor.

Tiwtorial fideo

Ychwanegu Delwedd i Drupal

[0:04]
Helo, dwi am ddangos sut i roi delwedd i fyny yn y system Drupal.

[0:09]
Felly mi fyddech chi angen i ddechrau mynd i'r linc yma

[0:13]
Yna, mynd i Content, mynd lawr i Media, Add Media a dewis Image.

[0:21]
Felly mae'n dod a chi i'r dudalen yma a mae'r iaith wedi cael ei roi yn Saesneg fan hyn i ddechrau.

[0:28]
Felly mi wnawn ni ei roi yr ochr yna.

[0:29]
Mae eisiau dewis llun, felly mynd i Browse, dewis pa bynnag lun da chi eisiau fan hyn neu yn eich ffeil chi.

[0:41]
Yna, rhoi enw iddo fo - Bangor University Building a hefyd rhoi disgrifiad o be ydi'r llun yn yr Alternative Text.

[0:58]
Felly mi wnawn ni roi 'Inner Quad at Bangor University Main Arts Building'

[1:01]
Yn y caption yn fan hyn, mi allwch chi roi rhywbeth os ydych eisiau'r sgrifen ymddangos o dan y llun

[1:07]
ac hefyd credit os oes na rywun berchen y llun neu efo hawlfraint allwch chi ei roi yn fan yna.

[1:12]
Mi allwch chi ddangos y flwyddyn lle mae o wedi cael ei dynnu,

[1:16]
a hefyd, dyma'r tags sydd yn bwysig. Os ydy o'n berthnasol i unrhyw Goleg Academaidd fe allwch chi ddewis un o rhain.

[1:24]
A rhoi'r Ysgol hefyd. A dewis y wlad, lefel cwrs hefyd, a'r Media Subject Matter.

[1:38]
Felly mae'n bwysig i ychwanegu hwn fel ei fod yn hawdd i'w ffendio wedyn o fewn y system.

[1:43]
Felly mi allwn ni roi Building i mewn, dewis hwnna. Os fasa yna, er enghraifft fyfyrwyr yn y llun, mi fasen ni yn gallu rhoi Students i mewn.

[1:54]
Mae yna Students Socialising neu Students Learning. Mae yna wahanol bethau allwch chi ddewis o fewn y Media Subject Matter.

[2:04]
A wedyn mi awn ni fynd i Save. Felly mae hwnna wedi ei safio.

[2:08]
|Felly mae'r ochr Saesneg wedi ei wneud. Be ydan ni angen ei wneud rwan ydi mynd i Translate, Add fel ein bod yn gallu gwneud yr ochr Gymraeg.

[2:20]
Felly mae o ond yn fater o newid y teitl i Gymraeg - Adeilad Prifysgol Bangor a newid hwn i

[2:38]
Quad Mewnol ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.

[3:05]
Felly mae hwnna yn rhoi ychydig bach mwy o ddisgrifiad o beth sy'n digwydd yn y llun a lle mae'r llun.

[3:09]
Ac wedyn mi fydd bob dim wedi cael setio - os ydio'r ochr Saesneg o ran y Media Subject Matter yn y tags.

[3:19]
Felly mi fydd bob dim run fath. ac wedyn rhoi Save i wneud yn siwr ei fod wedi ei gadw.