Fy ngwlad:

Hygyrchedd Digidol: Fideos

Creu Fideos Hygyrch

Yn gyntaf, bydd angen llwytho'r fideo ar Panopto, sef gwasanaeth meddalwedd rheoli fideo a ddefnyddir gan Brifysgol Bangor.

  • Mynd i Panopto
  • My folder (fy ffolder)
  • Create (creu)
  • Upload Media (uwchlwytho'r fideo)
  • Edit (eicon pensil er mwyn gallu golygu)
  • Details. Yn y manylion, mae angen rhoi Title, Description, Tags (teitl, disgrifiad a thestun amgen.) Er enghraifft, os yw'n fideo am seicoleg, byddech yn ychwanegu hashnodau fel #seicoleg, #prifysgolbangor #cyrsiauseicoleg, ayb)
  • Captions Fersiwn wedi ei ysgrifennu o'r hyn sy'n cael ei ddweud mewn fideo ac unrhyw sain arall mewn fideo yw capsiynau. Ceir mwy o wybodath ar wefan W3.org. Mae opsiwn i lwytho'r capsiynau neu mae modd creu rhai eich hun. Dylai'r capsiynau sy'n cael cynhyrchu'n awtomatig ddangos o fewn ychydig funudau, a bydd modd i chi eu golygu ac addasu'r amseroedd.
  • Gallwch ddewis pwy sydd yn gallu gweld y fideo drwy fynd i SettingsShare. Mae modd ei newid i Public (Cyhoeddus) os yw'r fideo am gael ei gyhoeddi ar y wefan.
  • Dewisiwch y fideo (drwy roi tic) yn My Folder (fy ffolder) ac yna dewis Move (symud)
  • Symud y fideo i Web Team videos

Llwytho Fideos i Drupal

Unwaith fydd y fideo wedi cael ei wneud yn hygyrch yn Panopto, mae modd ei lwytho i Drupal (os ydych efo mynediad i'r system).

  • Clicio ar Content (cynnwys), yna Media (er mwyn gallu llwytho'r fideo).
  • Add Media (ychwanegu'r fideo).
  • Dewis Video (fideo).
  • Language (iaith) – dewis Cymraeg neu Saesneg .
  • Name (enw) – rhoi teitl y fideo.
  • Video Url (linc y fideo) – hwn fydd linc i'r fideo yn Panopto wrth fynd i Share, Embed a chopïo'r linc (o fewn y "").
  • Thumbnail (mân-lun) – dewis llun i roi syniad i'r defnyddiwr pa fath o fideo mae nhw am ei chwarae (heb ysgrifen arno). Gallwch hefyd ddewis sgrinlun o glip fideo.
  • Year published (y flwyddyn gyhoeddwyd) – dewis y flwyddyn cafodd y fideo ei greu.
  • Tags – sicrhau fod y tagiau perthnasol wedi cael eu dewis (h.y. Coleg Academaidd, Ysgol, Pwnc ayb).
  • Save (cadw).

Tiwtorial Fideo

Ychwanegu fideo i Drupal

[0:03]
Helo. Dwi am ddangos i chi sut i lwytho fideo o fewn Drupal.

[0:08]
Felly mi ydych chi angen mynd i'r linc fan hyn.

[0:11]
Mynd i Content, lawr i Media, Add Media a clicio ar Fideo.

[0:16]
Fe ddewch chii'r dudalen yma, a mae'n dibynnu os ydi o'n fideo Saesneg, mi rydych chi'n dewis English fan hyn.

[0:22]
Neu gewch chi roi fideo Cymraeg.

[0:27]
Mi fyddech chi wedi llwytho y fideo yn barod i rywle fel Panopto, felly mae eisiau chdi roi y linc i mewn i fan hyn.

[0:36]
A rhoi teitl i'r fideo fel ei fod yn fideo am Gwyddorau Meddygol, felly dyna nawn ni ei roi fel enw.

[0:46]
Nawn ni ddewis thumbnail fel llun i gyd-fynd efo'r fideo ac ei fod yn berthnasol.

[0:52]
Mi allwch chi ddewis llun eich hun neu mi allwch chi roi screenshot o beth sydd yn mynd ymlaen yn y fideo hefyd.

[1:01]
A mi ddaw yna Alt Text i fyny, Alternative Text fel ein bod ni yn disgrifio beth sy'n mynd ymlaen yn y llun.

[1:08]
Felly dwi fan hyn yn rhoi 'merch yn dysgu yn y labordy ym Mhrifysgol Bangor'.

[1:14]
Video Transcript. Mae'n bwysig eich bod wedi rhoi yn barod y transcript o fewn y fideo fel ei fod yn cyrraedd ein safonnau ni o hygyrchedd.

[1:18]
Felly, mi allwch chi ddewis y flwyddyn, lle mae o wedi cael ei greu, a hefyd y tags. Fel Coleg Academaidd, pa Goleg mae'n pethyn.

[1:36]
Gewch chi hefyd roi yr Ysgol, felly mi ddaw i fyny. Da chi'n dechrau teipio a mae'n dod i fyny.

[1:47]
Lefel y cwrs yn israddedig fan hyn. Ac hefyd yn y Media Subject Matter, mae rhain fel tags. Da chi'n rhoi rhywbeth i mewn yna a weithiau a mae'n haws i'w ffendio o fewn y system.

[2:01]
Felly mi wnawn ni roi Students Learning. Os da ni yn rhoi comma, gewch chi ddewis mwy nag un hefyd.

[2:09]
Mi wnawn ni roi Teaching Room.

[2:12]
A dyna ni. Mi allwch chi bwyso Save fel ei fod yn cael ei gadw o fewn y system.