Fy ngwlad:

Mwy am yr Adran Adran Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Ffilm, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau

Cyfleoedd Gwych i Ddysgu

Myfyrwyr mewn darlith

Ar lefel israddedig ac ôl-radd, rydym yn cynnig ystod eang a hyblyg o ddewisiadau o blith y modiwlau mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Creadigol.

Mae ein myfyrwyr yn elwa o gael bod mewn grwpiau seminar bach, tiwtorialau wyneb yn wyneb, gweithdai a darlithoedd. Mae yma ofal bugeiliol arobryn, cefnogaeth un-i-un ac adborth personol, ac rydym yn dod i adnabod ein myfyrwyr fel unigolion ac yn eu galluogi i ddilyn eu diddordebau creadigol hwythau

Tu Hwnt i'r Dosbarth

Pontio - sign

Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer astudiaethau creadigol a llenyddol, ar lan y Fenai ac wrth droed yr Wyddfa, a llai na thair awr ar y trên yn syth o Lundain.

Mae’r cysylltiadau clos â Pontio, Canolfan Gelfyddydau newydd y Brifysgol, sy’n werth £40 miliwn, theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr bywiog – gan gynnwys cymdeithas ddrama, cymdeithas ysgrifennu creadigol, cymdeithas ffilm, gorsaf radio, a dau bapur newydd i fyfyrwyr – yn golygu bod cyfleoedd lu i’r myfyrwyr gymryd rhan.

Cyflogadwyedd

Mae'r rhaglenni gradd a gynigiwn yn rhoi sgiliau hynod drosglwyddadwy i'r graddedigion mewn dadansoddi beirniadol, datrys problemau'n greadigol, rhoi cyflwyniadau a dadlau achosion. Gwerthfawrogir y rheini’n fawr gan bob math o gyflogwyr.

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ymchwil

Mae gennym hanes hir a nodedig o waith ymchwil ers sefydlu Prifysgol Bangor ym 1884. Roedd Llenyddiaeth Saesneg yn un o ddisgyblaethau sylfaenol y sefydliad o’r dechrau ac ers hynny rydym wedi ehangu ein diddordebau ymchwil i gelfyddydau creadigol eraill.

Mae gennym ddiwylliant ymchwil ffyniannus a chyfeillgar sy'n rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol.