Fy ngwlad:
Person yn ysgrifennu ar ddesg

Graddau Ysgrifennu Creadigol Israddedig

Mae ein gradd Ysgrifennu Creadigol yn rhaglen arloesol, ymarferol sy'n eich annog i weithio ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Byddwch yn dysgu sut i fireinio'ch syniadau a'ch ysbrydoliaeth, dysgu ysgrifennu a mynegi'ch hun i gyfathrebu â chynulleidfa ehangach.

Ar y dudalen hon:
Opsiynau o fewn Ysgrifennu Creadigol

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch y cwrs Ysgrifennu Creadigol i chi

Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Cyfunwch gerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol ac archwilio geiriau a’r grefft o ddweud stori. Darganfyddwch lwybrau gyrfa unigryw ym meysydd cyfansoddi caneuon a chelf.
Cod UCAS
WW38
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Archwiliwch sut mae Saesneg yn gweithio a datblygu sgiliau ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau. Lansiwch yrfaoedd llwyddiannus mewn ysgrifennu, cyhoeddi a mwy.
Cod UCAS
Q3WL
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Cyfunwch lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol a mynd ati i adrodd eich straeon eich hun. Archwiliwch lwybrau gyrfa amrywiol ym meysydd y celfyddydau, addysg ac ysgrifennu.
Cod UCAS
2P17
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Oes arnoch chi eisiau ysgrifennu nofel? Ydych chi’n caru barddoniaeth? Mae arbenigwyr ac awduron cyhoeddedig yn addysgu ar y cwrs hwn, a fydd yn eich helpu i wneud gyrfa ysgrifennu i chi eich hun.
Cod UCAS
W801
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ysgrifennu Creadigol ac Ieithoedd Modern - BA (Anrh)
Saernïwch straeon sy'n croesi ffiniau. Cyfunwch ysgrifennu creadigol ac arbenigedd mewn iaith. Rhannwch eich llais gyda chynulleidfaoedd byd-eang a dilyn llwybrau gyrfa unigryw.
Cod UCAS
W8R8
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Dilynwch ni

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ysgrifennu Creadigol a Phroffesiynol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein hymchwil o fewn Ysgrifennu Creadigol

Mae arbenigedd staff Ysgrifennu Creadigol i'w chael yng nghrefft iaith ac adrodd straeon yng nghyd-destun eang ymarfer proffesiynol. Mae ein staff yn gweithio ar draws disgyblaethau, gan gynnwys barddoniaeth, stori fer, y nofel, ffuglen cyfryngau cymdeithasol, ffuglen ddigidol, newyddiaduraeth, ysgrifennu ar gyfer y sgrin a chyhoeddi.

Mae staff yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu priod faes, gan ddod â gwybodaeth a brwdfrydedd i'w haddysgu.  Mae gan yr adran gymuned weithgar o fyfyrwyr ymchwil ac mae'n cynnig goruchwyliaeth ymchwil mewn ystod o feysydd arbenigol, gan gynnwys: Barddoniaeth, Ysgrifennu straeon byrion, Cyfieithu creadigol, Gwerthu llyfrau, Lle'r llyfr, Cyhoeddi digidol, Ysgrifennu arbrofol, Ecowleidyddiaeth, Ysgrifennu Eingl-Gymreig, Datblygu cysyniadau, Sgriptio, Cenedlaetholdeb yng Nghymru, Y cyfryngau Cymraeg a Chymreig, Cyfryngau digidol mewn ieithoedd lleiafrifol, Newyddiaduraeth wleidyddol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.