Gwylio - Taith Pentref Ffriddoedd
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn sefyll yng nghanol Pentref Ffriddoedd. Mae’r myfyriwr yn sefyll ar y llwybr gyda ffensys, gwyrddni ac adeiladau llety yn y cefndir. Mae arwydd y tu ôl iddyn nhw’n darllen ‘Ffriddoedd: Bar Uno Café Bar, Siop, Swyddfa Neuaddau, Ystafell Bost, Diogelwch’.
[SIRIOL] Haia, croeso i Bentref Ffriddoedd. Enw fi di Siriol a dwi am ddangos i chi be mae o fel i fyw yma.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae tri chlip ar y sgrin ar yr un pryd. Mae'r clip cyntaf yn dangos dau fyfyriwr yn chwarae pŵl yn Ystafell Gyffredin JMJ, mae'r ail glip yn dangos myfyriwr yn cerdded ar hyd y llwybrau trwy Ffriddoedd, ac mae'r trydydd clip yn dangos yr un myfyriwr tu mewn i un o'r ystafelloedd llety JMJ yn eistedd ar y gwely.
[SIRIOL] Y peth cynta’ ‘da chi angen gwybod ydi fod rhai pobl yn galw fo’n ‘Ffridd’.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae’r olygfa’n newid yn ôl i’r myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yng nghanol Pentref Ffriddoedd gyda ffensys, gwyrddni, ac arwyddion yn y cefndir.
[SIRIOL] Mae Ffriddoedd wedi cael ei leoli mewn lle gwych, ym Mangor Uchaf, sef ardal myfyrwyr Bangor.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn cerdded ar hyd y llwybrau trwy Bentref Ffriddoedd gyda meinciau, ffensys, gwyrddni, a phoster Campws Byw ynghlwm i’r ffens yn y cefndir.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae dau fyfyriwr yn sefyll ym Mangor Uchaf o flaen bar. Mae addurniadau amryliw yn hongian o do’r fynedfa. Mae arwydd yn cael ei ddangos ar y sgrin sy’n darllen ‘The Vintage Shop’.
[SIRIOL] Dim ond tri munud i ffwrdd o Bentref Ffriddoedd mae adeilad dysgu cyntaf, Fron Heulog.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae’r ddau fyfyriwr yn edrych drwy ffenestr ‘The Vintage Shop’. Mae un myfyriwr yn edrych drwy'r ffenestr ac yn pwyntio at eitem yn y ffenestr, tra bod yr ail fyfyriwr yn edrych ar yr un eitem. Yn y cefndir, mae yna siopau eraill, pobl, a thraffig. Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan, o flaen arwydd Fron Heulog.
[SIRIOL] Yma mae pynciau gofal iechyd a meddygaeth yn cael eu ddysgu.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o ddau fyfyriwr meddygol gyda 'doli astudio' yn gorwedd ar wely ysbyty yn yr ystafell sy’n efelychu ward ysbyty.
[SIRIOL] Ond peidiwch â phoeni, dani ddim rhy bell o’r adeiladau eraill.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan, o flaen arwydd Fron Heulog.
[SIRIOL] A dim ond munud i lawr y ffordd o Fron Heulog mae’r archfarchnad agosa.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn pwyntio at ‘Morrisons’ ochr arall i’r lôn.
[SIRIOL] Dyma allt Glanrafon sydd yn aml yn cael ei alw yn rwbath arall, ond na’wni ddim ail adrodd hwna heddiw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar dop lôn. I'r chwith, mae Morrisons, ac i'r dde mae yna fflatiau.
[SIRIOL] Ar waelod yr allt, just 10 munud i ffwrdd o bentref Ffriddoedd mae Pontio ac Academi, y clwb nos i fyfyrwyr.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded lawr grisiau yn Pontio wrth sgwrsio â’i gilydd. Clip o Côd QR Snapchat yn Academi gyda ‘academibnagor’ wedi ei ysgrifennu o dan y côd. Myfyrwyr yn dawnsio yng nghlwb nos Academi.
[SIRIOL] Digon o pubs o fewn 10 munud.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i dafarn leol, Y Glôb. Maen nhw’n pwyntio at yr arwydd sy’n darllen ‘Tafarn y Glôb’.
Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y Cwad Allanol yng nghanol Prif Adeilad y Celfyddydau.
[SIRIOL] Ac wedyn, chwarter awr o gerdded dyma ni yn Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen loceri wedi eu lleoli ym Mhentref Ffriddoedd. Mae gan y loceri logo'r Brifysgol a llun o'r Prif Adeilad arnyn nhw.
[SIRIOL] Mae ‘na ddigonedd o opsiynau byw yma yn Ffriddoedd, a mae pob un ystafell yn en-suite. Hyd yn oed y rhai fforddiadwy.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar fainc sydd tu allan i neuadd ym Mhentref Ffriddoedd.
[SIRIOL] Mae gennych chi neuaddau modern sydd hefo lifft i bob llawr. Mae gennych chi neuaddau clasurol fama. Dos 'na ddim lifft yn hein ond hein ydi’r neuaddau fforddiadwy.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen neuadd glasurol.
[SIRIOL] Dyma Bar Uno. Mae o’n far, yn gaffi ac yn siop goffi.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen arwydd ‘Bar Uno’.
[SIRIOL] Mae ‘na pryd poeth bargen yn cael ei syrfio bob amser cinio o Ddydd Llun i Ddydd Gwener a hefyd mae ‘na lawr o ddigwyddiadau myfyrwyr yn digwydd yma. Dyma’r siop. Mae ‘na ‘laundrette’ yn fan hyn.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll y tu allan i un o olchdai'r pentref. Mae'r clip yn newid i ail olchfa ar y safle. Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i'r adeilad, maen nhw’n dangos yr arwydd i'r adeilad, ac yna yn cerdded i'r drws cyn mynd i mewn i’r golchdy.
[SIRIOL] Ystafell gyffredin, lle da i ymlacio, gweithio a chymdeithasu.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i ystafell gyffredin y pentref sydd drws nesaf i’r siop. Mae’r arwydd sydd ar y wal frics yr adeilad yn darllen ‘ystafell gyffredin’.
[SIRIOL] Dyma Canolfan Brailsford. Mae’n gampfa ac yn ganolfan chwaraeon.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i Ganolfan Brailsford. Mae dau arwydd, un uwchben y drws sy’n darllen ‘Chwaraeon Bangor’ ac un arall i’r chwith sy’n cynnwys yr oriau agor.
[SIRIOL] Yma mae 'na ‘gym’, ardal codi pwysa, wal ddringo, y ‘dome’ a ‘squash courts’.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o bobl yn Platform 81, sy'n rhan o'r gampfa, yn codi pwysau. Clip o berson yn defnyddio'r wal ddringo.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i Ganolfan Brailsford. Mae dau arwydd, un uwchben y drws sy’n darllen ‘Chwaraeon Bangor’ ac un arall i’r chwith sy’n cynnwys yr oriau agor.
[SIRIOL] Dyma neuadd John Morris-Jones, neu JMJ.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Ffilm o’r awyr o Bentref Ffriddoedd, yn cychwyn uwchben Neuadd Reichel a’r cae pob-tywydd ac yn symud i fyny tuag at Ganolfan Brailsford. Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu ôl i arwydd Neuadd John Morris-Jones. Yn y cefndir, gellir gweld ceir wedi parcio tu allan i ddwy neuadd breswyl.
[SIRIOL] Mae hwn yn neuadd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg a dyma lle dwi’n byw.Mae eich cerdyn personol chi yn gadael chi mewn i’r adeilad, i’ch fflat ac eich ystafell wely.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i ddrws fflat glas. Mae'r myfyriwr yn mynd i mewn i'w fflat gan ddefnyddio cerdyn myfyriwr.
[SIRIOL] Dwi rwan yn fy ail flwyddyn yn aros yma yn JMJ.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd o flaen ffenestr y gegin, lle mae golygfa o'r Fenai ac Ynys Môn yn y cefndir.
[SIRIOL] Mae lloria top yr adeilad wedi’ cael ei safio ar gyfer myfyrwyr ail flwyddyn. Lle dachi’n gorfod fod yn lwcus iawn i daro’r ‘jacpot’ fel fi i gael yr olygfa yma.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o'r olygfa o fflat llawr uchaf adeilad JMJ.
[SIRIOL] Mae bob cegin yn JMJ yn cynwys popty, microdon, tegell, tostiwr, ‘hoover’, ‘fridge-freezer’ a bwrdd smwddio.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y gegin gyda phopty i'r chwith a chypyrddau yn y cefndir. Mae offer coginio, llestri a bagiau te ar gownter y gegin.
[SIRIOL] Mae pawb yn y fflat yn cael cwpwrdd, silff yn y ‘fridge’ a silff yn y ‘freezer’.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn agor un o’r cypyrddau cyn cerdded i’r oergell a’r rhewgell. Mae’r myfyriwr yn agor drws yr oergell gan ddangos y cynnwys ac yna phwyntio tuag at y rhewgell.
[SIRIOL] Mae gan pob cegin yn JMJ bwrdd byta, ond fydd rhaid i chi ddod a ‘pots and pans’, cyllill a ffyrc ac llestri eich hynan.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar y bwrdd bwyta.
[SIRIOL] Mae myfyrwyr yn gyfrifol am gadw eu hystafelloedd eu hynan yn lan ac yn daclus, yn ogystal â’r ardaloedd cymdeithasol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll rhwng y ficrodon a’r biniau ailgylchu. Mae’r olygfa o’r Fenai i’w weld drwy'r ffenestr.
[SIRIOL] Mae 'na lanhawr yn dod mewn bob wsos, ond ni fyddent yn golchi llestri. Wnawn nhw lanhau’r sinc ag y ‘worktops’, a mopio’r llorie. Ag fydd 'na ryw’un yn dod i wagio’r binau sbwriel ac ailgylchu unwaith yr wsos.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y coridor ac yn defnyddio eu cerdyn i fynd i mewn i’r ystafell wely.
[SIRIOL] Dyma fy ystafell i, felly dewch i mewn. Ym mhob ystafell dachi’n cael gwely sengl, Wi-Fi, desg a cadair, silff lyfre, cwpwrdd ddillad, bin gwastraff, cwpwrdd bach ag en-suite.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar wely'r ystafell. Mae gwely, silffoedd ar y wal, desg gyda chadair, gliniadur, a theledu yn yr ystafell. Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd wrth y ddesg.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o'r silffoedd. Mae myfyriwr yn siarad ac yn pwyntio at y silffoedd sydd wedi'i haddurno â phlanhigion, llyfrau, gwydrau ac eitemau ymolchi. Clip o’r myfyriwr yn siarad ac yn pwyntio tuag at eitemau yn yr ystafell, yn cynnwys cwpwrdd dillad, bin a chwpwrdd bach. Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn nrws yr en-suite. Mae’r myfyriwr a’i llaw ar yr handlen, ac yn agor y drws.
[SIRIOL] Fydd angen i chi ddod a dillad gwely eich hynen. Fedwch roi posteri a llynie fynu fama er mynd gwneud y lle yn fwy cartrefol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr wedi penlinio wrth ymyl teledu sydd ar ben cwpwrdd bach. Mae’r myfyriwr yn pwyntio i fyny at binfwrdd ar y wal.
[SIRIOL] Cofiwch, os dachi’n bwriadu gwylio teledu, fydd rhaid i chi brynu ‘TV Licence’. Ma’ hynny’n cynnwys gwylio teledu byw a’r apiau. Mae 'na rhai petha fedrwch ddim dod a nhw efo chi, felly cofiwch edrych ar y wefan i wneud yn siwr.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip agos o'r myfyriwr yn yr ystafell wely wrth siarad.
[SIRIOL] Dyma ystafell ymarfer Aelwyd JMJ. Dyma lle dani’n dod i ymarfer côr, ac paratoi ar gyfer Eisteddfodau.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar gadair ddesg wrth ymyl piano tu fewn i Ystafell Ymarfer Aelwyd JMJ. Mae yna fwrdd du mawr, tu ôl i'r piano sy'n ymestyn dros hyd y wal ac wedi'i orchuddio ag ysgrifen mewn sialc. Clip agos o ddwylo myfyriwr wrth iddynt chwarae piano. Mae myfyriwr yn siarad wrth sefyll yng nghanol Ystafell Gyffredin JMJ tra bod dau fyfyriwr yn chwarae pŵl yn y cefndir.
[SIRIOL] Dyma ystafell gyffredin JMJ. Mae o’n lle gwych i gymdeithasu ac ymlacio, chwarae darts neu pŵl.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn chwarae gem o bŵl. Myfyriwr yn taflu dart. Dart yn taro’r 20-thriblyg.
[SIRIOL] ‘Da’ni hefyd yn cynnal cyfarfodydd yma, er enghraifft, Cymdeithas John Gwilym Jones neu’r Aelwyd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip agos o ysgrifennu sy’n darllen ‘Cofiwch Dryweryn’ ar wal Ystafell Gyffredin JMJ. Clip o grys-t coch UMCB sy’n darllen ‘Eisteddfod Ryng-golegol Bangor 2017’.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Aelwyd JMJ yn ymarfer canu yn yr ystafell ymarfer.
[SIRIOL] Mae fflatiau safonol dipyn bach yn wahanol i be sydd ar gael yn JMJ, a mae nhw hefyd dipyn bach yn ddrytach.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o’r neuaddau newydd ym Mhentref Ffriddoedd.
[SIRIOL] Tydi pawb sydd yn siarad Cymraeg ddim yn dewis byw yn JMJ a mae rhai yn dewis byw mewn fflatiau safonol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i ddrws fflat. Mae'r myfyriwr yn curo ar ddrws y fflat ac yn cael ei adael i mewn gan fyfyriwr arall.
[SIRIOL] Awn i gael ‘look’ tu mewn.
[AVA] Helo, Croeso.
[SIRIOL] Hia!
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o'r ddau fyfyriwr yn eistedd ar y soffa yn y gegin yn ymlacio ac yn siarad â'i gilydd. Mae'r clip yn dangos gweddill y gegin gyda bwrdd bwyta wedi'i addurno â llestri, chadeiriau lliwgar, cypyrddau cegin ac offer coginio.
[SIRIOL] Mae gan y cegin yma yr un adnoddau a JMJ, ond mae nhw dipyn bach yn fwy. Hefyd mae 'na gadeiriau gyfforddus sydd yn dda ar gyfer cymdeithasu ac ymlacio. Mae’r ystafelloedd yma yn cynwys yr un eitemau a JMJ.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu mewn i un o'r ystafelloedd gwely. Yn yr olygfa, mae gwely, desg, cadair ddesg, silffoedd, a chwpwrdd dillad. Mae myfyriwr yn siarad ac yn dangos ystafell wely fwy sydd ar gael mewn rhai fflatiau. Maen nhw’n sefyll yng nghanol yr ystafell ac yn ymestyn eu breichiau i ddangos maint yr ystafell. Mae gwely, desg, cadair ddesg, silffoedd, a chwpwrdd dillad yn yr ystafell.
[SIRIOL] Dyma neuaddau ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd gan fod amsarlen nhw bach yn wahanol i fyfyrwyr eraill.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Saif y myfyriwr o flaen neuaddau sydd wedi ei phenodi ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd. Mae adeiladau, ceir wedi parcio, gwyrddni, a choed yn y cefndir. Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll y tu allan i ddrws fflat hygyrch yn adeilad ‘Cefn-y-Coed’. Maen nhw'n curo ar y drws ac yn cael eu gadael i mewn i'r fflat gan y myfyriwr sydd yn byw yna. Maen nhw’n cerdded i mewn i'r fflat ac i'r chwith i mewn i’r ystafell wely hygyrch.
[SIRIOL] Mae ‘na hefyd ddigon o ystafelloedd hygyrch ar gael yn Ffriddoedd. Awn i weld ystafell Abi.
[ABI] Croeso.
[SIRIOL] Hia. Pan ‘nath Abi rhoid cais i mewn i gael fflat odd ‘na opsiwn iddi ddewis ystafell hygyrch.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o'r ystafell o'r chwith i'r dde. Yn yr ystafell mae gwely, bwrdd wrth ochr y gwely gyda llun, a photel ddŵr. Mae bwrdd mawr o dan y ffenestr gyda theganau meddal ac mae'r myfyriwr yn sefyll o’i flaen, tra bod y myfyriwr arall yn eistedd wrth eu desg. Mae’r ddau fyfyriwr yn sgwrsio a’i gilydd. Ochr arall yr ystafell mae desg gyda gliniadur, silffoedd, lluniau, goleuadau, a phosteri.
[SIRIOL] Ac mi oedd yr system yn hawdd i ddefnyddio. Mai wedi byw yn yr ystafell yma ers tair mlynedd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o'r myfyriwr yn eistedd wrth ei desg. Mae’r myfyriwr yn eistedd ar gadair ddesg, gyda'u dwylo ar fysellfwrdd y gliniadur ac yn edrych ar sgrin y gliniadur.
[SIRIOL] Ac mae’r tim neuaddau wedi bod yn hyblyg iawn yn gadael i Abi adael ei offer yma dros yr haf.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yng nghanol yr ystafell.
[SIRIOL] Mae’r ystafell ymolchi hefyd yn hygyrch.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn nrws yr en-suite sydd wedi cau. Maen nhw’n rhoi eu llaw ar yr handlen ac yn agor y drws i ddangos yr en-suite hygyrch.
[SIRIOL] Yma mae system sydd yn galw y tîm diogelwch os oes angen.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Larwm ar wal yr ystafell hygyrch gyda llaw’r myfyriwr yn pwyntio ato. Clip o'r awyr o Bentref Ffriddoedd. Mae Bangor i’w weld yn y cefndir, yn ogystal â’r Fenai a’r pier.
[SIRIOL] Swnio’n dda hyd yn hyn? Dyma ychydig bach fwy o wybodaeth. Mae’r contract tua 42 wythnos i is-raddedigion a chontract tua 51 wythnos i ôl-raddedigion.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o’r awyr o Bentref Ffriddoedd. Gellir gweld y cae chwarae pob-tywydd.
[SIRIOL] Mae eich ffioedd yn talu am eich ystafell, yswiriant cynwys sylfaenol, pob bil, Wi-Fi ac aelodaeth camfa ac Campws Byw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o ddau fyfyriwr mewn cegin yn un o fflatiau neuadd JMJ. Mae’r myfyrwyr yn eistedd o gwmpas y bwrdd bwyta yn dal cwpanau yn eu dwylo, yn wynebu ei gilydd. O ongl wahanol, mae’r ddau fyfyriwr yn eistedd o gwmpas y bwrdd bwyta yn sgwrsio ac yn edrych allan drwy’r ffenestr ar yr olygfa hyfryd o’r Fenai ac Ynys Môn. Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar soffa goch yn ystafell gyffredin y Pentref.
[SIRIOL] Mae 'na dri ystafell gyffredin ym mhentref Ffriddoedd, dyma lle ma rhai o ddigwyddiadau Campws Byw yn cael eu cynnal.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o ddau fyfyriwr yn chwarae pêl droed bwrdd yn ystafell gyffredin y Pentref. Mae yna ddesgiau, cadeiriau desg, a chyfrifiaduron yn y cefndir. Clip o'r myfyriwr ac aelod o Griw Campws yn eistedd wrth ymyl ei gilydd ar soffa goch, maen nhw'n siarad ac yn chwerthin.
[SIRIOL] Dyma Christie a mae hi’n rhan o Criw Campws.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar soffa goch gydag aelod o Griw'r Campws.
[SIRIOL] Tra’n byw yn y neuaddau, fyddwch yn cael aelodaeth i Campws Byw am ddim. Mae Campws Byw yn dod a myfyrwyr o bob neuadd at eu gilydd ac yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau rhad ac am ddim i fyfyrwyr. Dyma’r swyddfa neuaddau lle fedrwch gasglu eich post a hefyd rhoid gwybod i unrhyw faterion cynnal a chadw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen y dderbynfa gyda dau arwydd sy’n darllen ‘Derbynfa Neuaddau’ a ‘Croeso’.
[SIRIOL] Os dachi am ddod a’ch beic i’r Brifysgol, fedrwch ddim ei gadw yn eich ystafell wely.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i sied feiciau ar y safle.
[SIRIOL] Ond, yn ffodus i chi, mae 'na ddigonedd o shediau beic o gwmpas y lle. Mae hwn yn costio £20 y flwyddyn a fedrwch ei archebu cyn dod i’r Brifysgol. Dwi wastad wedi teimlo yn saff ym mhentref Ffriddoedd, mae 'na ddiogelwch 24 awr a swyddfa yma yng nghanol y Pentref.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i’r adeilad diogelwch.
[SIRIOL] Mae 'na hefyd mentoriaid sy’n byw mewn neuaddau.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll gydag adeilad y Golchdy yn y cefndir.
[SIRIOL] Mae hein yn fyfyrwyr ail flwyddyn ac i fynu ac yna i helpu chi efo unrhyw broblem.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Clip o’r awyr o Bentref Ffriddoedd yn canolbwyntio ar y meysydd parcio yng nghanol y neuaddau clasurol a thu allan i neud JMJ.
[SIRIOL] Mae yna rhyw faint o lefydd parcio ar ein safle ond fydd rhaid i chi gael trwydded parcio. Y peth da am Fangor ydi ti gallu cerdded i bob man. Gobeithio eich bod wedi mwynhau y daith o gwmpas Ffriddoedd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar fainc yng nghanol Pentref Ffriddoedd. Yn y cefndir, mae dau fwrdd tenis-bwrdd awyr agored, coed, a Bar Uno.
[SIRIOL] Os oes 'na unrhyw beth 'dydan ni heb ateb, fedrwch fynd i’n tudalen cwestiynau cyffredinol ar wefan y brifysgol neu gyrru ebost i neuaddau@bangor.ac.uk
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Logo Prifysgol Bangor
Cyfleusterau ym Mhentref Ffriddoedd
- Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
- Diogelwch 24/7
- Mynediad cerdyn/allwedd diogel
- Bar Uno
- Siop
- Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
- Canolfan Chwaraeon
- Ystafell gyfrifiaduron
- Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
- Wi-Fi cyflym
- Ystafelloedd cyffredin
- Golchdy
- Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (£20)
LLEOLIAD CANOLOG A CHYFLEUS YM MANGOR UCHAF
Ffriddoedd Village
Amser cerdded bras o Bentref Ffriddoedd i:
- Prif adeilad y Celfyddydau – 10 munud o gerdded (Bangor Uchaf)
- Gwyddorau Iechyd – 2 funud o gerdded (Fron Heulog, Bangor Uchaf)
- Llyfrgell Gwyddorau a'r Llyfrgell – 10 munud o gerdded (Ffordd Deiniol, canol y ddinas)
- Cyfrifiadureg a Pheirianneg – 20 munud o gerdded (Stryd y Deon, canol y ddinas)
- Ysgol Busnes – 5 munud o gerdded (Bangor Uchaf)
- Gwyddorau Eigion – 32 munud o gerdded (Porthaethwy)
- Pontio – 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- Morrisons – 55 munud o gerdded (Bangor Uchaf)
- Asda – 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- Lidl – 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- M&S – 15 munud o gerdded (canol y ddinas)
- Farmfoods – 25 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Waitrose – 30 munud o gerdded (Porthaethwy)
- Aldi – 30 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Iceland – 35 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Tesco – 35 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Siop gyfleus Ffriddoedd – ar y safle
- Siopau lleol – 5 munud o gerdded (Bangor Uchaf)
- Stryd Fawr – 10 o gerdded (canol y ddinas)
- Siopau tu allan i'r ddinas – 20-35 o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- Bar Uno – ar y safle
- Academi – 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- Mae bariau, tafarndai a chlybiau eraill wedi eu lleoli ym Mangor Uchaf a chanol y ddinas.
- Canolfan Chwaraeon Brailsford – ar y safle
- Caeau chwaraeon Treborth – 20 munud o gerdded (wedi eu lleoli wrth Pont Menai)
- Ystafell fitrwydd Pentref y Santes Fair – 15 munud o gerdded (Pentref y Santes Fair)
- Barlows shop and café Bar Uno – ar y safle
- Caffi Cegin - 10 munud o gerdded (Pontio, canol y ddinas)
- Caffi Teras - 10 munud o gerdded (Prif Adeilad y Celfyddydau, Bangor Uchaf)
- Barlows - 15 munud o gerdded (Pentref y Santes Fair)
- Caffis lleol wedi eu lleoli ym Mangor Uchaf, canol y ddinal ac ym Mhorthaethwy.
- 5 munud o gerdded (Bangor Uchaf)
- 10 munud o gerdded (canol y ddinas)
- 20 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)
- 35 munud o gerdded (Porthaethwy)
- Meddygfa – 2 funud o gerdded
- Fferyllfa - 5 munud o gerdded (Bangor Uchaf)
- Ysbyty – 25 munud o gerdded (Penrhosgarnedd)
- Bws - tu allan i'r pentref
- Gorsaf Drenau – 5 munud o gerdded
- Tacsis - (yn yr orsaf drenau neu ganol y ddinas)
CYMRWCH DAITH RITHIOL O BENTREF FFRIDDOEDD
Archwiliwch Bentref Ffriddoedd o gysur eich soffa. Am brofiad cwbl ymdrochol, defnyddiwch eich penset VR a'i wylio ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas a'r eicon chwyddo i gael golwg agosach. Mae'r eicon cartref yn mynd â chi'n ôl i'r man cychwyn. Os oes taith dywysedig ar gael, defnyddiwch y botwm chwarae i’w dechrau.
Camau Nesaf
Gwybodaeth Bwysig am Neuaddau
Mae'r wybodaeth a gyflwynir ar y dudalen hon ynglŷn ag opsiynau llety'r Brifysgol, gan gynnwys disgrifiadau, ffotograffau, cynlluniau llawr, a chyfleusterau, wedi'i bwriadu fel canllaw cyffredinol a gall fod yn destun newid. Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, nid yw'r Brifysgol yn gwarantu ei bod yn gyflawn nac yn gyfredol. Mae argaeledd llety, nodweddion penodol, a chyfraddau rhent yn destun newid heb rybudd. Anogir darpar breswylwyr i gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau yn uniongyrchol i gadarnhau manylion penodol ac argaeledd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu opsiynau llety yn ôl yn ôl ei disgresiwn.