Sicrwydd o lety
Rydym yn sicrhau lle mewn llety'r Brifysgol i holl fyfyrwyr llawn amser y flwyddyn gyntaf sydd yn gwneud cais o fewn yr adegau priodol ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn.
Cymuned agos a chyfeillgar
Bydd byw yn un o'n neuaddau o safon uchel yn cynnig y cyflwyniad gorau i fywyd prifysgol. Cewch wneud ffrindiau newydd a chyfarfod â phobl o wahanol gefndiroedd.
Yn agos i'r Brifysgol a chanol y ddinas
Gallwch gerdded i adeiladau'r Brifysgol a'r ddinas ei hun o'n holl neuaddau preswyl.
Costau byw isel a chyfleusterau ar y safle
Mae costau byw ym Mangor yn isel o gymharu a phrifysgolion eraill ym Mhrydain ag os ydych yn byw mewn neuadd mae eich biliau dwr poeth, trydan, gwres a mynediad i'r rhyngrwyd yn gynwysiedig.
Mae'r prisiau yn cynnwys mynedfa i'r gampfa ac aelodaeth Campws Byw, sef rhaglen o weithgareddau ac adloniant i fyfyrwyr mewn neuaddau. Cewch hefyd y sicrwydd fod cefnogaeth ar gael gan Uwch Wardeniaid a thîm mawr o Wardeniaid a mae Staff Diogelwch ar gael 24 awr y dydd.
Opsiynau Llety
Archebwch eich ystafell ar-lein
Bydd y system i wneud cais am lety yn agored o 31 Ionawr 2024. Unwaith Prifysgol Bangor yw eich Dewis Cadarn trwy UCAS, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost i'ch gwahodd i wneud cais am lety. Wedi derbyn yr ebost cewch fynediad i'r system archebu ble gallwch ddewis eich ystafell.
Mae'r system yn caniatáu i chi ddewis yr union ystafell a'r neuadd yr ydych yn dymuno byw ynddo. Rhaid i chi wneud cais cyn 31ain Gorffennaf i sicrhau lle.