Yn ogystal â'n llety arobryn, mae gennym y mannau penodedig ychwanegol canlynol ar gyfer myfyrwyr sydd â gofynion penodol.
Llety Tawel
Bob blwyddyn byddwn yn dynodi rhai fflatiau i fyfyrwyr sy'n dymuno byw mewn awyrgylch mwy tawel. Byddwn yn dweud wrth yr holl breswylwyr yn y fflatiau hynny ein bod yn disgwyl awyrgylch distawach, ond dylai'r holl breswylwyr werthfawrogi nad oes unrhyw fath o fyw cymunedol yn gwbl ddistaw, ac mae'n anodd iawn diffinio 'tawel'. Gallai fod yn fwy swnllyd na byw yn eich cartref eich hun. Ymhellach, ni fydd bob amser yn bosibl rheoli faint o sŵn a ddaw o rannau eraill o'r neuadd ac o du allan i'r neuadd, a all fod y tu hwnt i'n rheolaeth. Nifer cyfyngedig o'r fflatiau hyn sydd ar gael ac ni allwn warantu y byddant ar gael ar adeg eich cais.
Noder ein bod yn gweithredu polisi dim goddefgarwch o sŵn yn ystod y cyfnodau arholiadau, ym mhob neuadd.
Mannau di-alcohol
Os hoffech wneud cais am y math hwn o lety, gallwch wneud hynny trwy ddewis fflat di-alcohol wrth ichi roi ddethol eich opsiynau ar y dudalen archebu. Os byddwch yn derbyn cynnig o lety di-alcohol, byddwch yn cytuno i beidio â defnyddio na storio alcohol yn y fflat, sy'n cynnwys eich ystafell wely.
Mae'r fflatiau di-alcohol ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis byw ynddynt - ni fydd myfyrwyr yn cael dynodi i fflat ddi-alcohol heb rybudd ymlaen llaw. Sylwer mai nifer cyfyngedig o'r fflatiau hyn sydd ar gael ac ni allwn warantu eu bod ar gael ar adeg eich cais.
Man Gwyddorau Iechyd a Gofal
Bydd y Brifysgol yn gwarantu ystafell i chi os byddwch yn gwneud eich cais erbyn 31 Gorffennaf ac y byddwch yn astudio ar ein campws ym Mangor. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth barhau yn breswyl yn ystod haf 2023. Am y rheswm hwn, dim ond i un Neuadd Breswyl y gallwch wneud cais, sef Bloc X Borth.
Serch hynny, os byddai'n well gennych fyw mewn neuadd ym Mangor gyda myfyrwyr eraill, cysylltwch â ni'n uniongyrchol os gwelwch yn dda a byddwn yn archebu ystafell i chi mewn neuadd wahanol i Borth. Sylwer y byddai'n ofynnol i chi symud allan o'r neuadd honno ar ddiwedd y contract a naill ai symud i Borth am weddill gwyliau'r haf neu symud yn ôl adref.
Siaradwyr Cymraeg
Mae Neuadd John Morris-Jones (JMJ) ym Mhentref Ffriddoedd yn bennaf ar gyfer siaradwyr Cymraeg a myfyrwyr israddedig sy'n dysgu Cymraeg.
Myfyrwyr Radiograffeg sy'n astudio yn Wrecsam
Mae gan y Brifysgol nifer o ystafelloedd yn Neuadd yr Wyddfa yn Wrecsam. Trefnir yr ystafelloedd mewn fflatiau o 6 ystafell gyda chegin a rennir. Mae ystafell gawod en-suite ym mhob ystafell. Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddarparu eu dillad gwely, tywelion, sosbenni, cyllyll a ffyrc a llestri eu hunain. Gellir trefnu cysylltiad â'r rhyngrwyd trwy Reolwr y Neuadd.
Yn anffodus, oherwydd y nifer cyfyngedig o ystafelloedd, ni allwn warantu lle mewn llety ar ein campws yn Wrecsam.
Mannau i Fyfyrwyr Hŷn ac Ôl-radd
Diffinnir Myfyrwyr Hŷn fel unrhyw fyfyriwr sydd yn 21 mlwydd oed neu'n hŷn ar ddechrau eu hastudiaethau. Ffoniwch ni os hoffech chi fyw mewn ystafell mewn neuadd ôl-raddedig neu yn ein neuadd dawel.
Man ôl-radd - Rydym yn cynnig nifer o ystafelloedd i fyfyrwyr ôl-radd yn ein neuaddau ôl-radd penodol, gan gynnwys stiwdios moethus, ystafelloedd gwely en-suite a thai, sydd ag ystafelloedd gyda chyfleusterau ymolchi a rennir. Byddwn yn cysylltu trwy e-bost ag ymgeiswyr ôl-radd llawn amser sydd wedi derbyn cynnig (a allai fod yn amodol) i astudio yn y Brifysgol unwaith y bydd y system archebu wedi agor. Unwaith y byddwch wedi derbyn yr e-bost, gallwch wneud cais ar-lein.
Fflatiau i ferched yn unig
Mewn rhai neuaddau rydym yn cynnig llety i ferched yn unig. Nodwch mai dim ond merched fydd yn cael caniatâd i fyw yn y fflatiau hyn. Dylai preswylwyr ddeall y caniateir iddynt gael ymwelwyr gwrywaidd, er y byddem yn disgwyl iddynt gynghori gweddill y fflat fel mater o gwrteisi os bydd ymwelydd gwrywaidd yn aros dros nos. Bydd aelodau gwrywaidd o'r Tîm Neuaddau, Tîm Mentoriaid, staff Cynnal a Chadw a staff Domestig hefyd yn ymweld â'r fflatiau.
Os yw amgylchedd gyfan gwbl un rhyw yn arbennig o bwysig i chi am resymau diwylliannol, mae'n annhebygol y gallwn ddarparu hynny yn y neuaddau preswyl.
Mannau i fyfyrwyr sy'n dychwelyd
Diffinnir Myfyrwyr sy'n Dychwelyd fel myfyrwyr 2ail, 3edd a 4edd blwyddyn. Gallant fyw mewn neuaddau i fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn unig; gallwch archebu gyda ffrindiau a dewis eich ystafell. Byddwn fel arfer yn agor ceisiadau o fis Tachwedd ymlaen ac mae cynigion teyrngarwch rhagorol ar gael. Felly gallwch ddewis byw gyda ni dros holl gyfnod eich cwrs gradd, os dymunwch.
Bydd cynigion teyrngarwch ar gael - y manylion i'w cadarnhau yn nes at adeg y cais.