Neges gan y Brifysgol
Mae pob un ohonom ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ein syfrdanu a'n tristáu gan y digwyddiad erchyll a arweiniodd at farwolaeth George Floyd, a'r digwyddiadau pryderus iawn a ddilynodd.
Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, cynhwysiant a pharch i gyd yn werthoedd y mae Prifysgol Bangor yn rhoi bri arnynt. Rydym yn falch o fod yn gymuned sy'n croesawu pobl o bob cefndir ac argyhoeddiad, ac ynghyd ag Undeb y Myfyrwyr, rydym wedi datblygu agwedd o beidio goddef unrhyw hiliaeth, trosedd casineb nac aflonyddwch.
Fodd bynnag, fel y gwelsom, mae'r frwydr yn erbyn anghydraddoldeb, anghyfiawnder a rhagfarn yn parhau. Nid oes unrhyw gymuned yn berffaith, ac mae hynny'n cynnwys prifysgolion, ond rydym yn gweithio gyda'n staff, myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr i gyflwyno'r newidiadau y mae taer angen amdanynt yn y byd.
Ar ein gwefan ceir gwybodaeth am y ffyrdd yr ydym yn cynnal ac yn gwella cymuned gynhwysol Bangor gan gynnwys manylion am sut i gael cymorth a chyngor, gwybodaeth am sut rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb, a manylion am sut rydym yn cynnal campws diogel – dyma wybodaeth sy’n arbennig o berthnasol ar hyn o bryd.
Fel cymuned o staff a myfyrwyr, safwn gyda’n gilydd i ddathlu ein hamrywiaeth a herio anghyfiawnderau. Rhaid i hiliaeth a gwahaniaethu beidio â pharhau i niweidio ein cymdeithas.
Yr Athro Iwan Davies
Is-ganghellor