Mae rhaglen ysgoloriaeth Cymru Fyd-eang, a lansiwyd yn 2020 gan Brifysgolion Cymru, yn cynnig cymorth i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno astudio ar lefel ôl-raddedig mewn Prifysgol yng Nghymru yn 2021.
Bydd Forrest Lancaster, o Maine yn UDA, yn derbyn £10,000 tuag at ei ffioedd dysgu ar gyfer y radd MA mae wedi dewis astudio ar ei chyfer mewn Archaeoleg Geltaidd.
Syrthiodd Forrest mewn cariad â Chymru yn 2016 pan ymwelodd â'r wlad am y tro cyntaf:
“Ers fy mhlentyndod, rwyf wedi bod wrth fy modd â llyfrau hanesyddol, chwedlau a mytholeg y Celtiaid. Mae fy astudiaethau mwy diweddar wedi fy arwain i ysgrifennu a chynhyrchu cyfres o fideos hanesyddol am safleoedd hynafol anghofiedig, plastai a chestyll.
Mae Prifysgol Bangor yn lleoliad perffaith i mi
“Mae Prifysgol Bangor yn lleoliad perffaith i mi fel myfyriwr hŷn sydd â diddordeb yn y meysydd hyn. Mae yma awyrgylch hamddenol, ac mae’n fforddiadwy iawn. Gyda llwybrau astudio ar gael mewn archeoleg a threftadaeth, bydd fy astudiaethau yn caniatáu i mi ennill y sgiliau y bydd eu hangen arnaf i ryngweithio'n uniongyrchol â gyrfaoedd yn y dyfodol ym maes addysgu neu'r sector treftadaeth."
Meddai’r Athro Iwan Davies, Cadeirydd Bwrdd Cymru Fyd-eang:
“Rwy’n falch iawn o groesawu’r cyntaf o’n myfyriwr Ysgoloriaeth Cymru Fyd-eang i Gymru.
“Mae'r fenter hon yn cynorthwyo ein hamcan ar y cyd o dyfu ein perthnasoedd addysgol rhyngwladol, sydd eisoes yn sylweddol.
“Bydd y cyfle i gynyddu symudedd myfyrwyr ac ymchwilwyr o fudd enfawr, nid yn unig i’r unigolion dan sylw, ond i’n prifysgolion a’n campysau. Bydd ysgoloriaethau Cymru Fyd-eang yn rhoi cyfle i fwy o fyfyrwyr elwa ar y profiad addysgol o ansawdd uchel sydd i’w gael yng Nghymru, a byddant yn cyfoethogi ac yn rhyngwladoli ystafelloedd dosbarth Cymru ymhellach.
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at gynnal perthnasoedd hirsefydlog gyda'n hysgolheigion ymhell ar ôl iddyn nhw raddio, gan adeiladu perthnasoedd parhaol at y dyfodol”.
Mae ysgoloriaethau Cymru Fyd-eang ar gael i fyfyrwyr o Fietnam, India, UDA a'r Undeb Ewropeaidd, gyda'r nod o ddatblygu cysylltiadau a phartneriaethau addysgol hir-dymor.
Ar hyn o bryd, mae dros 20,000 o fyfyrwyr tramor yn astudio ym mhrifysgolion Cymru bob blwyddyn.