Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023 ar gyfer Prifysgol Bangor wedi eu cyhoeddi.
Mae saith o bob 10 o'n myfyrwyr yn fodlon ag ansawdd eu cwrs.
Y rhaglenni sy'n perfformio orau ar gyfer boddhad myfyrwyr, yn cael sgôr boddhad o 100%, yw Bioleg y Môr/Eigioneg, Sŵoleg gyda Chadwraeth, Daearyddiaeth a Dylunio Cynnyrch. Roedd boddhad myfyrwyr hefyd yn uwch na 90% mewn Cyfrifeg, Astudiaethau Dylunio, Iaith Saesneg, Cyllid, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Bydwreigiaeth a'r Gymraeg.
Dywedodd yr Athro Nichola Callow, y Dirprwy Is-ganghellor dros Addysg, “Rydym yn falch iawn o weld boddhad uchel iawn ymhlith myfyrwyr mewn nifer sylweddol o feysydd pwnc. Rydym yn cymryd pob adborth gan fyfyrwyr o ddifrif, ac yn arbennig o falch bod buddsoddi ym mhrofiad digidol myfyrwyr, er enghraifft, wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn cyfraddau boddhad. Mae hefyd yn amlwg bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r cydweithio rhwng Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol.”
Cynhelir yr ACF yn flynyddol ar draws prifysgolion yn y DU ac mae’n casglu barn myfyrwyr blwyddyn olaf am eu hamser mewn addysg uwch. Mae arolwg ACF 2023, sy'n wahanol o ran y cwestiynau a’r raddfa sgorio o gymharu â blynyddoedd blaenorol, yn cynnwys 27 cwestiwn. Mae’n ymdrin â meysydd fel addysgu a dysgu, marcio ac asesu, cymorth academaidd, trefnu a rheolaeth, llais myfyrwyr, gwasanaethau lles meddwl.
Hoffai Prifysgol Bangor ddiolch i bob myfyriwr a gymerodd yr amser i gwblhau'r ACF a dweud wrthym am eu profiad.