Dyfarnu Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru i Dr Laura Richardson
Mae Dr Laura Richardson, Cymrawd Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, wedi derbyn medal Dillwyn (STEMM) Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.
Dyfernir tair Medal Dillwyn i gydnabod ymchwil gyrfa gynnar eithriadol mewn tri maes academaidd gwahanol: STEMM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth); gwyddorau cymdeithasol, addysg a busnes; a'r celfyddydau creadigol.
Mae Laura yn ymchwilydd sy'n archwilio sut mae gweithgareddau dynol a phrosesau naturiol yn siapio cymunedau ecolegol, gyda ffocws ar riffiau cwrel trofannol. Mae cyfraniadau rhagorol Laura i faes gwyddor y môr yn enghraifft o'i rhagoriaeth, ei harweinyddiaeth a'i hymrwymiad i effaith gymdeithasol. Mae ei gwaith wedi denu sylw rhyngwladol sylweddol, ac mae'n dangos cyflawniad mewn ymchwil ac addysgu fel ei gilydd.
Dywedodd "Rwy'n teimlo anrhydedd ac yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon. Mae'n golygu llawer iawn i mi. Diolch o galon i'm cydweithredwyr gwyddoniaeth, mentoriaid a fy ffrindiau sydd wedi cyfrannu ar hyd y ffordd."
Cafodd Laura ei henwebu gan yr Athro Gareth Williams, meddai, "Mae wedi bod yn ysbrydoledig cydweithio gyda Laura dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Laura yn wyddonydd eithriadol a charedig, ac mae wedi bod yn ychwanegiad gwych i'n grŵp ymchwil. Rwyf wedi dysgu llawer ganddi.”
Ceir rhagor o wybodaeth am enillwyr medalau newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yma.