Y llynedd yn 2024 dathlodd Prifysgol Bangor ei phen-blwydd yn 140 ers ei sefydlu ym 1884. Fel rhan o'r dathliadau 140 mlynedd, penderfynwyd cael arddangosfa ar y casgliad celf. Oherwydd rhaglen Storiel o arddangosfeydd a phrosiect gwaith cyfalaf a gefnogir gan CELF (Llywodraeth Cymru) i sefydlu rhwydwaith celf gyfoes i Gymru, penderfynwyd ar y slot cynnar hwn yn 2025.
Mae Prifysgol Bangor yn geidwad nifer o gasgliadau amgueddfa pwysig a ffurfiwyd ers sefydlu'r Brifysgol. Mae'r casgliadau yn amrywiol eu natur ac yn cynnwys celf gain. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a'i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o'r casgliad.
Mae'n cynnwys elfennau o gysylltiadau hanesyddol â'r Brifysgol drwy arddangos portreadau o rai o'i chyn-fyfyrwyr, staff ac adeiladau, ond mae hefyd yn arddangos rhai o'r gweithiau celf gorau sydd gan y Brifysgol yn y casgliad.
Mae'r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 21ain ganrif. Mae'r casgliad wedi datblygu'n bennaf trwy gymynroddion, rhoddion a phryniannau, a gafwyd oherwydd bod yr arlunydd neu'r pwnc yn ymwneud â gogledd Cymru neu’n berthnasol i’r Brifysgol.
Mae'r casgliad yn creu ased artistig a diwylliannol bwysig i'r Brifysgol a gogledd Cymru gyfan. Er bod rhai o'r gweithiau celf yn cael eu harddangos mewn mannau cyhoeddus o amgylch y Brifysgol, mae'n anghyffredin gallu eu gweld a'u gwerthfawrogi mewn oriel gelf. Mae hwn yn gyfle unigryw i'r gymuned allu mwynhau a chael eu hysbrydoli gan baentiadau sy'n rhan o gasgliad cyhoeddus rhagorol.
Bydd yr agoriad swyddogol yn cymryd lle 01/02/2025 at 12.00yp.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Helen Gwerfyl, Curadur Casgliadau Amgueddfa Storiel a Prifysgol Bangor helengwerfyl@gwynedd.llyw.cymru