Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Proceedings of the National Academy of Sciences USA, yn dangos y gall plastigrwydd sydd wedi esblygu i ddelio ag un sefyllfa o straen, helpu planhigion i addasu'n gyflym i sefyllfaoedd newydd o straen ac i orchfygu cynefinoedd newydd.
Mae’r gludlys arfor, sef blodyn gwyllt sy’n tyfu ar hyd arfordir y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, yn dod i gysylltiad yn rheolaidd â distrych hallt tonnau’r môr, sy’n niweidiol i lawer o blanhigion. Yn ystod yr ychydig gannoedd o flynyddoedd diwethaf, mae’r planhigyn wedi cytrefu ac addasu i wastraff mwyngloddio diwydiannol tocsig sydd â lefelau uchel o sinc, lle na all ond ychydig iawn o blanhigion oroesi.
Er mwyn deall sut mae plastigrwydd halen o gymorth er mwyn addasu i halogiad sinc, cynhaliodd tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Bangor arbrofion ar y gludlys arfor.
Trwy ddod â’r planhigion hyn o safleoedd mwyngloddio a safleoedd arfordirol i gyswllt â halen a sinc a mesur y newidiadau ym mynegiad y genynnau yng ngwreiddiau'r planhigyn, roedd yr ymchwilwyr yn gallu gweld sut roedd plastigrwydd yr hynafiaid arfordirol yn gweithredu fel rhagaddasiad, sydd wedi helpu’r planhigion i addasu’n haws i oroesi mewn safleoedd mwyngloddio.
Eglurodd Alex Papadopulos, sy’n Ddarllenydd ym Mhrifysgol Bangor, “Er mwyn ymdopi â dod i gyswllt â halen ar glogwyni a thraethau gro, mae’r gludlys arfor wedi datblygu plastigrwydd er mwyn medru ymdopi â’r straen cyfnewidiol hwn. Yn rhyfeddol ddigon, wrth i fwyngloddio diwydiannol olygu fod cilfachau newydd na allai planhigion eraill eu defnyddio, manteisiodd y gludlys arfor ar yr ymateb hwn i halen er mwyn addasu i fath hollol wahanol o straen, gan esbonio pam yr addasodd y planhigion o weithfeydd mwyngloddio mor gyflym.”
Ychwanegodd Sarah Coates, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor, “Datgelodd ein harbrofion pa mor bwysig yw ymatebion hynafiaid i straen cynefinoedd wrth addasu i gynefinoedd newydd, a hyd y gwyddon ni, does neb wedi sylwi ar hyn o’r blaen.”
Aeth Alex yn ei flaen i ddweud, "Cawsom ein synnu’n fawr cymaint o ddylanwad y mae’r plastigrwydd halen hwn sy’n dod o’u hynafiaid wedi’i gael ar y gallu i addasu i safle mwyngloddio. Mae hefyd yn syfrdanol ei fod yn digwydd mewn sawl ffordd wahanol. Mae’r cyfan yn awgrymu y gallai organebau sydd â lefelau uchel o blastigrwydd hefyd fod mewn sefyllfa llawer gwell i ymdopi gyda newid amgylcheddol cyflym.”