Crynodeb
Mae ymchwil arloesol Prifysgol Bangor i gyfieithu, gwaith ysgrifennu creadigol arobryn a gweithiau beirniadol ar farddoniaeth o Gymru wedi cynnal, gwella a thrawsnewid y ddealltwriaeth fyd-eang o ysgrifennu Saesneg o Gymru ac ynglŷn â Chymru. Yn benodol, mae wedi dylanwadu’n sylweddol ar gyfieithu fel ymarfer creadigol; codi ymwybyddiaeth cynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol o lenyddiaeth ddwyieithog Cymru mewn ffyrdd arloesol ac effeithiol; a chyfrannu at ymdeimlad o gymuned leol a rhyngwladol trwy ddealltwriaeth draws-ddiwylliannol. Y rhai sydd wedi cael budd o’r ymchwil hwn yw'r cyhoedd yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig, yn ogystal ag awduron a chyfieithwyr yng Nghymru, Ewrop, America Ladin a gwledydd Seisnigedig eraill.

Ymchwilwyr
- Professor Zoë Skoulding
- Professor Carol Rumens
- Ms Alys Conran