Crynodeb
Mae ymchwil i bolisïau a chynllunio iaith a wnaed ym Mhrifysgol Bangor wedi datblygu ein dealltwriaeth o ddefnydd iaith a throsglwyddo iaith mewn perthynas â'r Gymraeg yn sylweddol, gan ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, addysg, y trydydd sector, gofal iechyd a chymdeithas sifil. Mae wedi cael effaith amlwg ar feysydd polisi iaith allweddol Llywodraeth Cymru, yn cynnwys defnydd iaith gymunedol a throsglwyddo iaith rhwng cenedlaethau lle mae canfyddiadau ymchwil wedi dylanwadu ar y modd mae Llywodraeth Cymru a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn mynd ati i adfywio'r Gymraeg yn barhaus fel yr amlinellir yn y strategaeth iaith gyfredol, Cymraeg 2050.