Crynodeb
Mae ymchwil Prifysgol Bangor i lenyddiaeth Saesneg ganoloesol wedi dangos ei pherthnasedd yn y byd modern. Yn benodol, mae wedi ehangu mynediad byd-eang i destunau ac archifau canoloesol; mae wedi dylanwadu ar lenyddiaeth Saesneg yng nghwricwla ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru a Lloegr; mae wedi dylanwadu ar ymarfer sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol; ac mae wedi dangos, trwy gyfryngau amrywiol, berthnasedd parhaus rhan hanfodol o'n treftadaeth lenyddol i bryderon modern ymhlith cynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ymchwilwyr