Trosi ein hymchwil ar y celfyddydau a diwylliant yn weithgareddau creadigol
Mae Bangor yn gartref i ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio sydd o'r radd flaenaf, ac yn helpu i drosi ein hymchwil i'r celfyddydau a diwylliant yn weithgareddau creadigol sydd wedyn yn cael ei ddwyn yn uniongyrchol i'n cymunedau lleol. Daw ein cyfraniadau creadigol o nifer o ysgolion yn y Coleg - Ysgol Cerddoriaeth a Pherfformio, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a'r Cyfryngau - gan gynnwys Cyfansoddi profiad dementia - cydweithrediad â chydweithwyr yn y Gwyddorau Iechyd; Perfformiadau Dawns Fertigol; barddoniaeth a nofelau arobryn; ffilmiau a digwyddiadau - er enghraifft, yr unig un o'i fath yn y Deyrnas Unedig i ddathlu hanner canmlwyddiant y ffilm ffuglen wyddonol arloesol, 2001: A Space Odyssey. Mae cydweithwyr wedi ennill llawer o anrhydeddau yn eu priod feysydd.
Arbenigedd sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Busnes Bangor yn chwarae rhan weithredol wrth reoleiddio a llywodraethu sefydliadau ariannol ac economaidd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ddarparu cipolwg ar themâu pwysig ac amserol trwy fodelu credyd ac ansicrwydd; a rheoleiddio ariannol, cystadleuaeth a llywodraethu corfforaethol mewn bancio. Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygiad prosesau deddfwriaethol a pholisi Cymru a'i sefydliadau cyfiawnder sy'n datblygu trwy ymchwil ar gwestiynau sylfaenol cyfiawnder gweinyddol a pholisïau sydd ar waith i amddiffyn y bregus. Cydnabyddir arbenigedd Ysgol y Gyfraith mewn cwestiynau caffael yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Awduron creadigol gorau Cymru
Mae gan yr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd draddodiad rhagorol o fod yn gartref i rai o awduron creadigol gorau Cymru. Ymhlith yr aelodau staff presennol. Mae Davies ac Wiliams wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae Hunter a Price wedi ennill y Fedal Ryddiaith am nofelau diweddar. Mae Lynch, hefyd, yn fardd a beirniad o fri cenedlaethol, yn enwedig barddoniaeth yn y mesur caeth.
Datblygu adnodd newyddiadurol unigryw
Mae Ifan Morgan Jones, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a'r Cyfryngau, yn newyddiadurwr proffesiynol, ac wedi datblygu adnodd newyddiadurol unigryw i Gymru, nation.cymru, i helpu i lenwi'r bwlch democrataidd yng nghynnwys y cyfryngau yng Nghymru. Mae wedi dod yn adnodd poblogaidd ar gyfer gwleidyddiaeth Cymru, gyda chyfraniadau gan wleidyddion Cymru.