Adnabod Problemau Iechyd Meddwl
Gall arwyddion a symptomau problemau iechyd meddwl gynnwys rhai o’r canlynol:
- Anawsterau gyda’r cof a chanolbwyntio.
- Teimlo’n ddideimlad yn emosiynol, neu eisiau crio’n aml.
- Gorweithio, aflonyddwch, gorfywiogrwydd neu ei chael yn anodd gwneud unrhyw beth o gwbl.
- Trafferth cysgu neu drafferth aros yn effro.
- Colli chwant bwyd, bwyta er mwyn cysur, neu ddiddordeb gormodol mewn bwyd a phwysau.
- Siarad gormod neu’n rhy gyflym, neu ddim yn siarad o gwbl.
- Teimlo’n ofnus drwy’r amser, neu’n cael pyliau o banig.
- Trafferth cysylltu â’ch amgylchedd a/neu bobl eraill.
- Teimladau o afrealrwydd, neu realiti dwysach.
- Clywed lleisiau, neu weld neu deimlo pethau nad yw eraill i weld yn eu clywed/gweld/teimlo.
- Pryderu am bethau’n barhaus.
- Hunan-niweidio.
- Meddwl am ladd eu hunain.
Nid yw unrhyw un o’r problemau hyn ar eu pen eu hunain yn arwydd o salwch meddwl o angenrheidrwydd, ond mae bob amser yn well gofyn am gymorth neu gyngor.
- Amcangyfrifir y bydd un mewn pedwar oedolyn ym Mhrydain yn cael trafferthion iechyd meddwl rhyw bryd yn eu bywyd, a bydd un mewn hanner cant yn dioddef salwch meddwl difrifol.
- Rydym i gyd ar gontinwwm iechyd meddwl a gallwn symud i fyny ac i lawr yn dibynnu ar amrywiaeth eang o ffactorau, megis y maeth rydym yn ei gael, bwlio neu golled/profedigaeth.
- Gall unigolion heb ddim hanes blaenorol o anawsterau iechyd meddwl ddechrau dioddef o broblemau iechyd meddwl os bydd eu hamgylchiadau’n newid.
- Gall eraill, sydd wedi cael problemau iechyd meddwl blaenorol, gael ail bwl wrth gael eu rhoi mewn sefyllfaoedd newydd lle ceir dipyn o straen.
- Er y gall gymryd amser hir i wella weithiau, gall pobl wella’n gyfan gwbl o’r rhan fwyaf o fathau o salwch meddwl, ac maen nhw yn gwella’n aml.
- Gall cyfnodau o salwch daro rhai unigolion wedyn, neu efallai y bydd angen triniaeth hir dymor arnynt, ond gall cefnogaeth leihau’r perygl iddynt lithro’n ôl i afael y salwch.
Fideo Defnyddiol
I had a black dog, his name was depression