Canllawiau Gwydnwch
Mae straen yn iach; achosir gofid fel rheol gan ormod o bwysau sy’n cael ei roi arnom gan bobl eraill neu gennym ni ein hunain mewn rhai achosion. Gall y canllawiau hyn eich helpu i osgoi gofid neu ymdrin yn fwy effeithiol gyda’r hyn sy'n achosi gofid. Cliciwch ar y broblem sydd gennych chi.- Dim digon o amser
- Ffordd o fyw afiach
- Addo gwneud gormod
- Gwrthdaro
- Methu derbyn pethau fel y maent
- Methu cymryd amser i fwynhau eich hun ac ymlacio
- Problemau sydd ddim yn gysylltiedig a gwaith
- Methu a gweld ochr ddoniol pethau
- Sefyllfaoedd arbennig sy'n achosi straen
- Newidiadau mawr mewn bywyd
Gwraidd y Broblem |
Y Canlyniad |
Sut i’w Wella |
Pam? |
Yn aml gallwch fod yn rhedeg o gwmpas drwy’r dydd yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng eich holl dasgau yn y gwaith a gartref, ond yn dal ddim yn llwyddo i gwblhau popeth sydd ar eich rhestr. Weithiau gall hyn fod oherwydd bod y gofynion a osodir arnoch yn afrealistig, ond yn aml mae oherwydd nad ydych yn rheoli eich amser yn dda a ddim yn pennu eich blaenoriaethau. | RHEOLI EICH AMSER YN FWY EFFEITHIOL |
Efallai bod hwn yn rhywbeth amlwg, ond gall rheoli eich amser yn well leihau straen. Mae llawer ohonom yn gwastraffu llawer o amser yn gwneud tasgau dibwys felly gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn blaenoriaethu ac yn gwneud y tasgau pwysicaf yn gyntaf. Hefyd gwnewch y tasgau nad ydych eisiau eu gwneud cyn symud ymlaen i’r tasgau mwy dymunol, oherwydd gall dim ond meddwl am dasgau annymunol achosi straen. | |
Er bod gan rai pobl ffordd o fyw afiach oherwydd diffyg amser, er enghraifft prynu bwyd cyflym oherwydd nad oes ganddynt amser i fwyta’n iach, gall fod gan eraill ffordd o fyw afiach oherwydd eu bod eisoes dan straen ac yn troi at ysmygu, er enghraifft, fel ffordd o ymdopi. Beth bynnag yw’r rheswm, gall ffordd o fyw afiach leihau eich gallu i ymdopi gyda straen, ac mewn rhai amgylchiadau gall gynyddu eich lefelau straen ac achosi salwch corfforol. | GWNEUD MÂN NEWIDIADAU |
Mae diet iach, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd a chael digon o gwsg yn golygu y bydd eich corff yn gallu ymdopi gyda’r straen fyddwch yn ei wynebu. Gall ymarfer corff yn arbennig fod yn ffordd dda o gael gwared â straen, yn enwedig os yw’n golygu taro pêl neu wrthrych arall! Hefyd, trwy wybod eich bod yn byw bywyd iach, byddwch yn teimlo'n fwy cadarnhaol ac yn gallu ymdopi'n well. | |
Efallai eich bod yn tueddu i addo gwneud gormod yn y gwaith ac yn y cartref, oherwydd nad ydych eisiau siomi pobl. Ond os ydych yn gwneud hyn byddwch yn teimlo dan straen oherwydd bod gennych ormod i'w wneud a ddim yn gallu cyflawni popeth yr ydych wedi addo ei wneud. Mae addo gwneud gormod hefyd yn golygu na fyddwch yn gallu gwneud eich gorau. |
GWYBOD FAINT Y GELLWCH EI WNEUD |
Mae’n well bod yn onest a dweud wrth bobl faint y gallwch ei wneud mewn gwirionedd. Yn y modd yma gallwch osgoi teimlo dan straen trwy beidio ag addo gwneud mwy nag y gallwch ei wneud yn gyfforddus ar unrhyw adeg. Mae’n well bod yn ofalus na gwneud llawer mwy nag y dylech fod yn ei wneud a chofiwch, nid yw gofyn am gymorth yn arwydd o wendid felly gofynnwch am help os byddwch ei angen. | |
Er na ellir osgoi dadleuon yn gyfan gwbl, mae’n gwneud synnwyr i osgoi gwrthdaro neu ei rwystro pryd bynnag bo hynny’n bosibl. Nid oes angen chwilio am ddadl neu wrthdaro, ceisiwch ddatrys problem mewn ffordd sy’n gwneud i’r ddwy ochr deimlo’n weddol hapus. Cofiwch fod trafodaeth agored yn well nag anghydfod chwerw. | GOLLWNG PETHAU A SYMUD YMLAEN |
Os yw'ch cydberthynas gyda phobl gartref neu yn y gweithle dan straen, mae'n debygol iawn y byddwch yn gofidio amdanynt. Gall gwrthdaro ddigwydd oherwydd anghytuno am sut y dylid gwneud pethau, ac efallai eich bod yn teimlo bod rhaid i chi ddal eich tir er mwyn gwneud cynnydd ond yn y pendraw bydd llawer o ddadlau yn cyfrannu at lefel eich straen. | |
Nid yw rhai pobl yn gallu derbyn pethau fel y maent neu dderbyn bod rhai sefyllfaoedd allan o’u rheolaeth. Os ydych yn ceisio newid rhywbeth na allwch ei newid, yna rydych yn creu straen diangen. Hefyd, mae treulio’r holl amser yn poeni am rywbeth yn golygu nad ydych yn gallu canolbwyntio ar y pethau eraill y gallech fod yn ei wneud, a gall hyn hefyd ychwanegu at y straen. | DERBYN Y PETHAU NA ALLWCH EU NEWID |
Nid yw’n bosibl bob amser newid sefyllfa anodd, ac os felly mae’n well derbyn pethau ac wynebu’r ffaith na allwch wneud dim byd. Gall trafod sefyllfa gyda rhywun arall fod o gymorth, gan y gallant eich helpu i weld pethau’n fwy cadarnhaol neu o safbwynt gwahanol sydd â llai o straen. Gall trafod pethau eich helpu i gadw eich canfyddiad o sefyllfa dan reolaeth. | |
Mae bod yn brysur drwy’r amser yn golygu y byddwch yn teimlo tyndra drwy’r amser ac ni fydd eich corff yn cael y cyfle i gael gwared â’r straen. Bydd peidio â chymryd amser i fwynhau eich hun yn golygu na fyddwch yn gallu gweithio mor effeithiol yn y pendraw. | ATGYFNERTHU EICH HUN |
Gall cymryd seibiant olygu eich bod yn gallu perfformio’n well wedyn, a byddwch yn adennill yn gyflym yr amser a gollwyd wrth ymlacio yn ogystal â theimlo eich bod wedi'ch atgyfnerthu. Gall cymryd ‘pum munud’ atgyfnerthu eich egni a'ch helpu i feddwl yn gliriach. Bydd ymlacio yn helpu eich corff i fynd yn ôl i’w gyflwr iach arferol. | |
Gall straen gael ei achosi gan broblemau sydd ddim yn gysylltiedig â gwaith, fel salwch difrifol yn y teulu, gorfod gofalu am bobl sy'n ddibynnol arnoch, profedigaeth, symud tŷ neu fynd i ddyled. Yn aml ni ellir osgoi’r problemau hyn ac nid ydynt yn bethau y gallwch ddelio â hwy yn rhwydd, ond mae’n well ceisio ymdrin â hwy yn hytrach na'u gohirio neu geisio eu hanwybyddu. | CYMRYD GWYLIAU NEU NEWID EICH ARFERION GWAITH |
Os oes problemau o'r fath yn gwneud i chi deimlo dan straen a methu gwneud eich gwaith, yna mae'n well eich bod yn cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i ymdrin â'r problemau. Os oes yna broblem barhaus, gallwch ofyn i’ch cyflogwr am drefniadau gwaith mwy hyblyg a all eich helpu i ymdopi’n well. | |
Mae rhai pobl yn gallu chwerthin mewn sefyllfaoedd anodd ac yn gallu rhoi problemau naill ochr a delio â hwy yn effeithiol. Nid ydynt yn gadael eu hunain i deimlo dan ormod o straen. Ond nid yw rhai pobl yn gallu gweld yr ochr ddoniol mewn rhai sefyllfaoedd, ac mae hyn yn gallu gwneud iddynt deimlo dan fwy o straen. | CEISIO CAEL AGWEDD YSGAFN |
Gall gweld yr ochr ddoniol mewn bywyd leihau straen bob dydd. Gall peidio â bod yn ddifrifol drwy’r amser eich helpu i feddwl yn gliriach ac mae wedi cael ei brofi’n glinigol bod chwerthin yn gostwng pwysau gwaed ac yn lleihau’r hormonau straen. Felly ceisiwch weld yr ochr ddoniol mewn sefyllfaoedd. | |
Weithiau ni ellir osgoi teimlo dan straen mewn rhai sefyllfaoedd, ac mae’n anochel bod sefyllfaoedd lle rydym yn teimlo dan straen o bryd i'w gilydd er enghraifft, yn y gweithle neu'n sownd mewn traffig ac angen cyrraedd rhywle yn gyflym. | OSGOI SEFYLLFAOEDD SY’N GWNEUD I CHI DEIMLO DAN STRAEN |
Y ffordd i osgoi neu leihau rhywfaint o’r straen yw osgoi sefyllfaoedd sy'n achosi'r straen. Er enghraifft, os yw siopa yn yr archfarchnad yn achosi straen, gwnewch eich siopa ar lein. Ond os na allwch osgoi sefyllfa sy'n achosi straen, fel bod yn y gweithle, ceisiwch ddilyn rhai o’r awgrymiadau eraill yn y canllawiau hyn i leddfu eich straen. | |
Gall newidiadau mawr yn y pethau rydym wedi hen arfer â hwy achosi straen. Er enghraifft, gall newid eich swydd achosi fwy o straen nag unrhyw beth arall yn eich bywyd – efallai dyna pam nad yw llawer ohonom yn newid ein swyddi’n aml! Hefyd gall y prosesau sy’n arwain at y newid achosi straen. | EDRYCH YMLAEN AT Y DYFODOL |
Os gallwch feithrin yr agwedd o edrych ymlaen at y dyfodol, byddwch yn llai tebygol o deimlo unrhyw straen sy’n gysylltiedig â’r newid. Mae’n well edrych ymlaen at rywbeth na bod yn ofnus ohono. |