Hyfforddiant Staff Darparwyd gan ein Cynghorwyr Iechyd Meddwl
Gall y Cynghorwyr Iechyd Meddwl gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i staff perthnasol i ddatblygu eu dealltwriaeth o faterion iechyd meddwl a’u hymatebion i fyfyrwyr.
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (CCIM) Cymru
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (CCIM) Cymru
Cefndir:
Mewn ymateb i sylwadau gan y staff, gwnaeth y Grŵp Strategaeth Iechyd Meddwl gais am gyllid i gyflwyno’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar draws y Brifysgol a chael y cyllid hwnnw. Cynghorwyr Iechyd Meddwl Prifysgol Bangor, Fiona Rickard and Cheryl Parkinson, sy’n cynnal y cwrs. Rhyngddynt, mae gan Fiona a Cheryl fwy na 50 mlynedd o brofiad o weithio gydag unigolion â gwahanol gyflyrau Iechyd Meddwl ar wahanol gyfnodau – o argyfwng, pwl cyntaf o seicosis, cyflyrau parhaus, a gwellhad. Defnyddiant y wybodaeth helaeth hon i roi cyflwyniadau, ac i annog cyfranogwyr i archwilio agweddau sy’n achosi pryder iddynt yn eu swyddogaeth yma o fewn y Brifysgol, ac edrychant ar y dewis o atebion i’r problemau a all helpu.Nid addysgu pobl i fod yn Arbenigwyr Meddygol yw bwriad Cymorth Cyntaf Corfforol ac, yn yr un modd, nid oes disgwyl i’r rhai sy’n dilyn cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ddod yn arbenigwyr yn y maes. Yn hytrach, bwriedir i’r cwrs godi hyder wrth ymdrin â sefyllfaoedd sy’n codi yn ystod eich gwaith, gan atal mwy o niwed a chan ddiogelu bywyd hyd nes y daw mwy o gymorth.Cynnwys:
Sesiwn 1 - Cefndir, polisi
Sesiwn 2 - Hunanladdiad a iselder
Sesiwn 3 - Iselder a hunan niwed
Sesiwn 4 - Seicosis
Beth fyddaf i’n ei ddysgu ar y cwrs?
- Sut i weithredu pum cam Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (CCIM)
- Sut i ymateb os ydych yn credu bod rhywun mewn perygl o hunanladdiad
- Sut i roi cymorth ar unwaith nes bod cymorth proffesiynol ar gael
- Beth i’w ddweud ac i’w wneud mewn argyfwng
- Pwysigrwydd sgiliau gwrando da
- Ymarfer gwrando ac ymateb
- Deall adferiad o broblemau iechyd meddwl
- Deall y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac alcohol a chyffuriau
- Deall y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl a gwahaniaethu
- Gwybodaeth sylfaenol am broblemau iechyd meddwl
- Gwybodaeth hunangymorth
- Ymroddiad Amser
Ymrwymiad Amser
Sesiwn 12 awr drost gyfnod o ddau ddiwrnod
Dyddiadau
1 a 15 Mehefin 2018
14 a 15 Awst 2018
7 a 14 Chwefror 2019
Dulliau Dysgu
Mae’r sesiwn hyfforddi hon yn rhyngweithiol iawn.
Am fanylion pellach am ddyddiadau a lleoliad gwelwch yr Amserlen.
TystebauSut allai fynychu gweithdy?
Mae llefydd ar y cwrs yn gyfyngedig felly dynodi’r lle ar sail cyntaf i’r felin. Os nad yw’r dyddiadau uchod yn gyfleus gelli’r dangos diddordeb a cedwir eich enw ar restr wrth gefn ar gyfer y rhaglen nesaf. Yn gyntaf mae'n rhaid derbyn caniatâd eich rheolwr i fynychu, wedyn cysylltwch y Tîm ar 8414 neu danfonwch e-bost at hyfforddi@bangor.ac.uk