Siarad am Hunanladdiad a Hunan-niwed
Gall gwybod bod rhywun yn teimlo’n ddigon anobeithiol i feddwl am ladd eu hunain ennyn amrywiaeth eang o emosiynau, yn cynnwys ofn, gwylltineb a diymadferthwch.
Gall rhywun deimlo fel lladd ei hun, ac eto ddim eisiau marw; yr hyn maent ei eisiau yw i’w poen a’u trallod ddod i ben, ac ni allent weld unrhyw ddihangfa arall o anobaith ymddangosiadol eu sefyllfa.
Efallai y bydd y risg iddynt ladd eu hunain yn cynyddu drwy’r modd y bwriadant wneud hynny, a thrwy’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, a hefyd drwy brofiad blaenorol o’u hymgais eu hunain neu eraill i ladd eu hunain.
Gall pobl fynegi gwahanol raddau o deimladau ynghylch lladd eu hunain, ac efallai y byddant yn teimlo’n fwy tueddol o fod eisiau lladd eu hunain ar rai adegau nag eraill (er enghraifft, pan fyddant wedi bod yn yfed, neu pan fyddent yn clywed bod rhywun arall wedi lladd eu hunain).
- Gall yr arwyddion i’ch rhybuddio bod rhywun yn teimlo fel lladd ei hun gynnwys:
- Newid amlwg mewn ymddygiad, yn arbennig os yw’r unigolyn yn mynd yn dawedog ac i’w gragen.
- Mynegi teimladau o fethiant, anobaith a hunanhyder isel.
- Siarad am ladd eu hunain, a ddim eisiau byw neu ddim yn gweld y dyfodol.
- Ddim yn edrych ar ôl eu hunain, fel peidio â bwyta neu edrych ar ôl eu hymddangosiad.
- Problemau gyda chysgu, yn arbennig deffro’n fuan iawn.
- Rhoi trefn ar eu pethau’n sydyn, e.e. cael gwared ar eiddo neu gymryd yswiriant bywyd.
- Dechrau edrych fel pe bai’n gwella o gyfnod o iselder.
Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn teimlo fel lladd ei hun o bosibl, ceisiwch eu hannog i siarad â rhywun ynghylch sut maent yn teimlo, a gwrando heb geisio codi eu calon neu fychanu’r hyn a ddywedant mewn unrhyw ffordd.
Os yw’n bosibl, trafodwch unrhyw deimladau cymysg sydd ganddynt, a lluniwch strategaethau ar gyfer gofyn am gymorth pan fyddant yn meddwl am ladd eu hunain. Gall hyn gynnwys rhestr o fanylion cyswllt (fel ffrindiau, teulu, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, llinellau cymorth) i’w chadw wrth law yn barod i’r unigolyn gysylltu â nhw pan fyddant yn teimlo mewn perygl o geisio lladd eu hunain.
Samariaid: 08457 90 90 90
Llinell gymorth C.A.L.L. 0800 132 737 (neu Neges Destun: Help i 81066)
Hunan-niweidio
Mae rhai pobl yn defnyddio hunan-niweidio bwriadol fel strategaeth oroesi i’w helpu i ymdopi â phoen a thrallod eithafol.
Gall rhywun ddefnyddio hunan-niweidio i liniaru neu allanoli poen emosiynol a theimlo rhyddhad dros dro.
Gall hunan-niweidio wneud i'r unigolyn trallodus deimlo ei fod fwy mewn rheolaeth ac yn gallu ymdopi.
Cofiwch na ddylech gadw pryderon difrifol am rywun arall i chi’ch hun. Gofynnwch i’r unigolyn weld eu meddyg teulu neu Gynghorwr Iechyd Meddwl. Os ydych chi’n teimlo bod yr unigolyn mewn perygl mawr, ac na fydd yn mynd at unrhyw un am gymorth ei hun, dylech siarad â’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Byddant yn eich cefnogi ac yn helpu i egluro’r camau gweithredu gorau.