Rydym yn Croesawu Cymunedau Ffydd
Crefydd a Chred
Yn y Deyrnas Unedig y cymunedau ffydd mwyaf yw rhai Cristnogaeth, Islam, Hindwiaeth, Bwdistiaeth, Iddewiaeth a Siciaeth. Mae yna lawer o bobl eraill hefyd sy'n arddel crefyddau eraill neu sy'n seciwlar, yn anffyddwyr, yn amheuwyr neu'n ddyneiddwyr.
Mae Prifysgol Bangor yn mawrygu'r amrywiaeth a welir ymysg ein myfyrwyr ac mae'n croesawu pob crefydd a ffydd a geir yn ein cymuned gynhwysol. Mae yna gyfleoedd gwych i chi gyfarfod â phobl sydd â'r un daliadau â chi a'n nod yw hyrwyddo perthynas dda rhwng aelodau o wahanol grefyddau a grwpiau ffydd ac, fel cymuned aml-ffydd, rydym yn awyddus i annog dealltwriaeth o wahanol grefyddau.
Mae gennym Ystafell Dawel sydd ar gael yn ystod oriau dysgu i unigolion ei defnyddio i weddïo’n dawel ac i fyfyrio. Ceir hefyd ystafell gyfarfod sydd ar gael i grwpiau ei harchebu i gynnal gweithgareddau sy'n gysylltiedig â ffydd. Gellir gwneud ymholiadau ac archebu trwy anfon neges e-bost at ffydd@bangor.ac.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau a'r ystafelloedd sydd ar gael, ewch i wefan Darpariaeth Ffydd y Gwasanaethau Myfyrwyr.
Yma ym Mangor rydym yn croesawu unigolion o unrhyw gefndir a ffydd i'n cymuned ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo awyrgylch ddiogel a chefnogol lle na cheir unrhyw wahaniaethu. Mae hyn wedi'i gynnwys yn ein polisi Polisi Aflonyddu Myfyrwyr . Ewch i'n gwe-dudalen ar aflonyddu am ragor o wybodaeth.
Cymdeithasau ym Mangor
Mae gan Bangor nifer o gymdeithasau Ffydd sy'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr sy'n arddel ffydd ddod at ei gilydd. Dysgu mwy ar wefan UNDEB Bangor.
Cliciwch yma i gael manylion cyswllt eglwysi a grwpiau ffydd ym Mangor.
Tîm Caplaniaid
Mae Tîm Caplaniaid y Brifysgol yn cynnig cymorth bugeiliol i unrhyw un sydd ei angen. Gellwch siarad â hwy'n gyfrinachol am unrhyw bryderon neu anghenion ffydd sydd gennych.
Mae yna hefyd gaplaniaid unigol y gellwch gysylltu â hwy. Mae'r wybodaeth hon a manylion pellach am y Tîm Caplaniaid ar gael ar eu gwefan.
E-bost: chaplaincy@bangor.ac.uk
Adnoddau Allanol
Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan y BBC am wahanol grefyddau a daliadau.
Fe wnaeth Ymlaen AU gyhoeddi adroddiad yn 2011 ar ' Religion and Belief in HE: Researching the Experiences for Staff and Students '
Mae adroddiad yr NUS 'No Place for Hate: Race and Ethnicity', a gyhoeddwyd yn 2012, yn edrych ar droseddau casineb yn gysylltiedig â chrefydd a daliadau ar gampysau yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r wefan Faith Matters yn rhoi gwybodaeth am ymgyrchoedd a digwyddiadau i leihau eithafiaeth a thensiynau rhwng gwahanol grefyddau.
Mae ymgyrch 'Tell MAMA' gan Faith Matters yn cofnodi a mesur digwyddiadau gwrth-Fwslemaidd a chefnogi cymunedau Mwslemaidd y mae troseddau casineb gwrth-Foslemaidd wedi effeithio arnynt.
Mae'r ymgyrch 'TAKE ON HATE' yn sefyll yn erbyn pob ffurf ar gasineb a rhagfarn tuag at unrhyw grŵp o bobl.