Beth yw eich opsiynau o ran adrodd?
Yn dilyn digwyddiad o gamymddwyn rhywiol, trais neu aflonyddu, gallwch ddewis adrodd am y mater yn ffurfiol, i'r heddlu a/neu'r Brifysgol.
Adrodd wrth yr Heddlu
Gallwch adrodd wrth yr Heddlu am unrhyw achos o drais rhywiol, aflonyddu neu droseddau casineb trwy ffonio 999 mewn argyfwng neu 101 neu 0300 3300101 os nad yw'n argyfwng. Gallwch hefyd fynd i Orsaf Heddlu a siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff.
Gydag achosion o drais rhywiol, gallwch hefyd adrodd i Amethyst, sef y Ganolfan Ymosodiadau Rhywiol ac Atgyfeirio (SARC) leol.
Adrodd wrth y Brifysgol
Yn ogystal ag adrodd wrth yr heddlu, neu'n hytrach na gwneud hynny, gellir cyflwyno adroddiadau yn erbyn myfyrwyr a/neu staff yn ffurfiol i'r Brifysgol. Bydd yr adroddiad yn cael sylw fel mater o gamymddwyn. Bydd y Brifysgol yn ystyried y mater ac ymchwilio er mwyn penderfynu a yw rheolau a rheoliadau'r Brifysgol wedi eu torri ac os hynny, bydd yn cymryd camau disgyblu priodol.
Ni all y Brifysgol ymchwilio na chymryd camau disgyblu tra bo proses droseddol yn mynd rhagddi fodd bynnag, ond gallwn gymryd camau i sicrhau eich diogelwch tra bo unrhyw ymchwiliad yn mynd rhagddo. Nid yw'r camau y bydd y Brifysgol yn eu cymryd yn ddibynnol ar ganlyniad ymchwiliad troseddol.
Gall y Tim Gwaith Achos Myfyrwyr dderbyn adroddiad ffurfiol a bydd yn rheoli pob achos o gamymddwyn anacademaidd gan myfyrwyr.
Adrodd yn Ddienw
Gallwch hefyd adrodd am unrhyw achos o drais rhywiol, aflonyddu neu droseddau casineb wrth y Brifysgol yn ddienw a gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio'r Ffurflen Adrodd a Chefnogaeth neu'n gyfrinachol trwy'r Tim Gwaith Achos Myfyrwyr .
Ni fydd y Brifysgol yn gallu ymchwilio'n llawn i adroddiad dienw ond gellir defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei darparu i weld a fu cwynion tebyg ac a oes patrwm o ymddygiad neu dueddiadau y dylid ymchwilio iddynt.
If you have immediate concerns about your personal safety, you can contact;
- University Security on 01248 382795 or 333 from an internal phone
- The Police directly on 999 in an emergency or 101 when not an emergency
- Ask a member of staff to do this for you.