Trais Rhywiol
Beth yw trais rhywiol?
Diffinnir trais rhywiol yn y DU gan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 sy’n rhestru 52 o droseddau rhywiol.
Mae’n derm, nad yw’n derm cyfreithiol, a ddefnyddir fel term ymbarél i gyfeirio at amrywiol droseddau rhywiol. At ddibenion polisi a chanllaw Prifysgol Bangor, mae’r term yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i dreisio, ymosodiad rhywiol trwy dreiddiad, ymosodiad rhywiol, aflonyddu rhywiol, stelcio, ‘porn dial’ a thrais yn y cartref.
Ymosodiad rhywiol yw unrhyw fath o weithgarwch rhywiol nad ydych yn cydsynio iddo, yn amrywio o gyffwrdd yn amhriodol i dreisio. Nid oes rhaid i hyn ddigwydd gyda dieithryn ac efallai na fydd unrhyw arwyddion gweledol yn cael eu gadael ar ôl. Gall fod yn eiriol, yn weledol, neu’n unrhyw beth sy’n gorfodi unigolyn i ymuno mewn gweithred rywiol ddi-groeso.
Mae ymddygiad fel cyffwrdd neu gusanu di-groeso ynghyd â ffurfiau eraill ar ymosodiad rhywiol yn droseddau a allai, o gael eu cyfeirio at yr heddlu, olygu arestio rhywun a’u barnu yn euog o drosedd mewn llys barn.
Beth yw cydsyniad rhywiol?
Cydsyniad rhywiol yw pan mae unigolyn yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch rhywiol. Mae hyn yn amod angenrheidiol ar gyfer pob math o weithgarwch rhywiol.
Nid yw bod mewn perthynas gyda rhywun, neu fod wedi cydsynio i weithgarwch rhywiol o’r blaen, yn golygu cydsynio i gael rhyw.
Mae Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn nodi na all unigolyn gydsynio oni bai ei fod ef neu hi yn rhydd, a bod ganddynt y gallu i wneud y dewis hwnnw.
Mae gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad yn erbyn y gyfraith. Ni ddylech fyth deimlo cywilydd am wrthod gweithgarwch rhywiol – mae gan bawb yr hawl i ddweud na.