A wnewch chi bleidleisio dros ‘fwydydd Hyll’?
Wnaethoch chi brynu ‘bwydydd hyll’ o’r Siop dros dro Bwydydd Hyll ym Mangor yn ddiweddar? Ydych chi’n meddwl ei fod yn syniad busnes gwych?
Mae’r fenter a fu’n llwyddiannus dros ben, ac a drefnwyd gan fyfyrwyr o Brifysgol Bangor, bellach wedi cyrraedd y 10 uchaf mewn cystadleuaeth ar gyfer myfyrwyr yn y DU.
Mae’r ’Siop Bwydydd Hyll’ wedi ei rhoi ar y rhestr-fer ar gyfer y rownd pleidlais boblogaidd yng Nghystadleuaeth ’60 second pitch Santander Universities.
Dan Taylor a Rhi Willmot, myfyrwyr yn yr Ysgol Seicoleg a fu, gyda’i gilydd, yn gyfrifol am reoli’r project, yw’r unig rai o Gymru i gyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth. Felly os oeddech chi wedi mwynhau Bwydydd Hyll yna ewch i wefan y gystadleuaeth: https://www.santanderuniversities.co.uk/enterprise/win/60-second-pitch/vote-now?t=1430464119 neu https://goo.gl/ZCVftm i fwrw’ch pleidlais drostynt cyn 27 Mai!
Bydd pleidleisio yn helpu Santander Universities i ddethol yr enillydd a fydd wedyn yn derbyn cefnogaeth busnes ac arian.
Rhoddodd y Siop Bwydydd Hyll, a fu’n agored drwy fis Mawrth, gyfle i’r bwydydd hyn a wrthodwyd gan archfarchnadoedd gael eu defnyddio rhag mynd i’r domen sbwriel.
Roedd y Siop hefyd yn gwerthu smwddis a chawl mewn bag, a oedd yn cynnwys popeth rydych eu hangen i wneud eich cawl neu eich lobsgóws eich hun gartref. Gydag ymgyrch hyrwyddo ar-lein ddeniadol yn gefn i’r project, roedd y Siop yn llwyddiant ysgubol. Mae’r Siop yn gobeithio ail agor yn gryfach fyth yn yr hydref.
Gyda Dan a Rhi’n rheoli’r project, rhoddodd y Siop gyfle i nifer o fyfyrwyr y Brifysgol ennill profiadau gwerthfawr.
Eglurodd Lowri Owen o broject Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd:
"Mae Prifysgol Bangor yn annog ei myfyrwyr i fod yn entrepreneuraidd ac ystyried yr opsiwn o fod yn hunangyflogedig a dechrau eu busnesau eu hunain. Er na fyddant i gyd yn mynd i’r maes diwydiant adwerthu, mae cymryd rhan yn y project hwn yn rhoi blas iddynt o redeg eu busnes eu hunain a'u helpu i ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd y mae cyflogwyr eisiau eu gweld."
"Hoffwn ddiolch i Gyngor Dinas Bangor am roi'r cyfle i ni ddefnyddio'r siop dros dro," ychwanegodd Lowri.
Meddai Dan Taylor, myfyriwr Meistr ôl-radd:
"Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweld faint o gefnogaeth gawsom ni yn ystod mis Mawrth, ac mae’r gefnogaeth wedi parhau tra bod y siop ar gau. Mae’r cyfle i agor siop wedi agor ein llygaid i pa mor bwysig yw hi i gydweithio efo’r gymuned i ddatrys materion cyfredol. Mae Cystadleuaeth Santander Universities wedi rhoi llwyfan i ni, ac wedi newid yn sylweddol yr hyn mae ‘hyll’ yn ei olygu mewn gwirionedd.
Meddai Rhi Willmot:
“Roedd datblygu’r Siop Bwydydd Hyll o fod yn freuddwyd i fod yn ffaith yn brofiad gwych. Mae gweld yr ymateb brwdfrydig gan gymuned Bangor wedi bod yn anghredadwy, a gyda chymorth gallem barhau i wneud pethau mawr yn enw ‘hyll’.”
Cefnogir rhaglen Byddwch Fentrus Prifysgol Bangor gan gyllid o Ganolfan Ranbarthol Gogledd Orllewin Cymru Llywodraeth Cymru a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i weithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2015