Bangor yn cyfrannu at Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru
Mae darlithwyr yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor i chwarae rhan allweddol mewn darparu cefnogaeth ymchwil i athletwyr Cymreig elît wireddu eu gobeithion o ennill medalau yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.
Fel rhan o Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru (Welsh Institute of Performance Science- WIPS), mae'r Doctoriaid Sam Oliver, Stuart Beattie ac Anthony Blanchfield o SSHES wedi cael eu penodi'n arweinwyr ymchwil ym meysydd ffisioleg amgylcheddol, gwyddor hyfforddi a ffisioleg perfformio i gefnogi Chwaraeon Cymru i ddarparu strategaethau perfformio ymarferol arloesol i athletwyr elît o Gymru a staff ategol.
Bydd y cynllun, a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Chwaraeon Cymru, yn cyfuno arbenigedd ymchwil nifer o academyddion o brifysgolion ar draws Cymru gydag arbenigedd busnesau Cymreig i ddatblygu cynlluniau perfformio cadarn ar gyfer cystadlaethau am rai o'r medalau pwysicaf.
Meddai Anthony Blanchfield, arweinydd ymchwil WIPS ym maes ffisioleg perfformio:
"Mae'r cynllun gwych yma'n rhoi cyfle unigryw i Gymru bontio'r ymchwil ddiweddaraf ym maes ymchwil chwaraeon ac arbenigedd busnes er mwyn cyflawni targedau uchelgeisiol Chwaraeon Cymru ymlaen llaw cyn cystadlaethau pwysig, megis Gemau'r Gymanwlad yn 2018.
Rwy'n gwybod bod sefydlwyr WIPS wedi gwneud llawer iawn o waith caled yn y cefndir i ddatblygu'r cydweithio hwn ac rydym yn hynod falch o gael ein penodi i'n gwahanol swyddogaethau.
Mae'r cyfle i gydweithio gyda chyfoedion o brifysgolion Cymreig eraill a busnesau Cymreig gyda'r nod o gyflawni ymchwil ac arloesi i'r safon uchaf i gynorthwyo athletwyr Cymreig a staff ategol yn rhywbeth eithriadol gyffrous."
Cliciwch yma i gael y datganiad llawn i'r wasg (yn Saesneg).
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016