Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn yr wythfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.
Aseswyd 719 o brifysgolion o 81 gwlad ar gyfer y Tabl Cynghrair gan Universitas Indonesia, sydd yn tynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd.
Mae Prifysgol Bangor wedi dal ei gafael ar yr wythfed safle am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn cael ei gosod yn seithfed yn Ewrop yn ôl y cynghreiriau sydd yn mesur chwe dangosydd ym mhob prifysgol. Enillodd Prifysgol Bangor y marciau uchaf oedd ar gael ar gyfer addysg – gan adlewyrchu ymroddiad y Brifysgol i addysg ac ymchwil ym maes cynaladwyedd. Enillodd mannau awyr agored gwyrdd y Brifysgol, a’i phwyslais ar lwybrau troed, ganran uchel o’r marciau, tra bod ymdrechion y Brifysgol i leihau gwastraff ac i ailgylchu hefyd o fudd ac yn sgorio’n uchel, yn yr un modd ag y mae ynni a newid hinsawdd drwy adeiladau clyfar a gwyrdd ac effeithlonrwydd ynni.
Roedd uchafbwyntiau cynaladwyedd ar y campws flwyddyn diwethaf yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Brifysgol i gymryd camrau cadarnhaol wrth hybu cynaladwyedd a llwyddo wrth wella’r amgylchedd. Roedd digwyddiadau’n cynnwys yr ail Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff ar draws y campws, Carnifal Cynaliadwyedd, Her Climathon a’r Melin Drafod a gynhelir yn rheolaidd er mwyn i staff a myfyrwyr rannu syniadau a diddordebau.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaladwyedd y Brifysgol:
"Ymdrech tîm ar draws y campws yw hwn. Mae gwella'r amgylchedd ac arbed adnoddau ledled y sefydliad yn her ddi-baid ac mae gofyn i ni i gyd ymuno yn y gwaith. Rydym yn cydnabod bod rheolaeth amgylcheddol gadarn yn hanfodol bwysig i'n nod o ddatblygu a defnyddio dulliau blaengar o wneud ystyriaethau cynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhan annatod o bopeth a wnawn, trwy ein hymchwil, ein haddysgu a'n cadwyn gyflenwi ein hunain".
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019