Bywyd o wleidyddiaeth Llafur: Sgwrs gyda Kim Howells
Bydd y cyn-Aelod Seneddol ac aelod o gabinet Tony Blair, Dr Kim Howells yn cael ei holi mewn sgwrs ym Mhrifysgol Bangor nos Iau 23 Chwefror.
Bydd y drydedd Dadl a Seminar Blynyddol er cof am yr Athro Duncan Tanner yn cychwyn am 5.30 yn Ystafell Teras 3 ym Mhrif Adeilad y Brifysgol ac yn addo bod yn noson ddifyr ble ceir clywed barn a phrofiadau Kim Howells, cyn-AS Pontypridd, ac un a weithredodd mewn sawl swydd weinidogol yn llywodraethau Blair a Brown.
Bydd Kim Howells yn sgwrsio â’r Athro Andrew Edwards, hanesydd Llafur a Deon y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai'r Athro Edwards:
“Rwy’n sicr y cawn farn di-flewyn-ar-dafod a hanesion difyr gan Kim Howells, nid yn unig ar lywodraethau Blair, ond hefyd ei ymwneud â nifer o ymgyrchoedd gwleidyddol. Rwy’n gobeithio y bydd ganddo hefyd rywbeth i’w ddweud ar fater Brexit a chyflwr presennol y Blaid Lafur o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn. Mae’n argoeli i fod yn sgwrs hynod ddiddorol!”
Byddai Duncan wedi bod wrth ei fodd i weld ystafell lawn o staff, myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd. Tase fo yma, rwy’n sicr y byddai’n lleisio’i farn gref, a digon dadleuol, ar y pynciau sydd i’w trafod!”
Roedd Duncan Tanner yn Athro Hanes yn y Brifysgol ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymdeithasol a Diwylliannol y Brifysgol (WISCA). Bu farw yn sydyn o ganlyniad i gyflwr ar y galon yn 51 oed yn 2010. Yn enedigol o Gasnewydd, de Cymru, mynychodd Duncan yr ysgol gyfun leol cyn ennill gradd gyntaf mewn hanes modern a gwleidyddiaeth o Royal Holloway College, University of London (1979), ac yna gradd PhD o University College London (1985). Ymunodd â Phrifysgol Bangor fel darlithydd yn 1989 a fe’i penodwyd yn Athro hanes modern yn 1995. Ac yntau’n hanesydd llafur blaenllaw, trodd ei sylw at ddatganoli ac roedd, adeg ei farwolaeth annhymig, yn rhan o dîm ymchwil sylweddol a oedd yn astudio datganoli yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2017