Cadeirlan o aer syfrdanol ynglanio ym Mangor...ac yn cyffroi'r synhwyrau!
Disgwylir i gannoedd o bobl heidio i’r Hen Lain Fowlio, Ffordd Deiniol i ymweld â gwlad hudolus strwythur llawn aer, sy’n glanio yna am bedwar diwrnod. Bydd y Luminarium yn creu cyffro a syndod yn ninas Bangor rhwng 29 Medi a 2 Hydref.
Adeiledd labyrinth enfawr ydyw, wedi’w greu o dwnelau, cromenni ac ogofau yn llawn o harddwch lliwiau disglair a golau pelydrol, i gyffroi’r synhwyrau. Dychmygwch antur mewn gorsaf ofod o’r dyfodol neu hyd yn oed archwilio’r corff dynol! Mae’r Luminarium yn gerfluniaeth rhyfeddod lle caiff pobl brofiad arall-fydol.
Crëwyd y strwythur, sy’n debyg i gastell wedi’i chwythu i fyny, gan gwmni gosodiad celf rhyngwladol Architects of Air a bydd yn cael ei godi yng nghanol y ddinas, oddi isod i erddi’r Gadeirlan. Ers 1992 ma’r Luminarium wedi ymweld â dros 500 o arddangosfeydd mewn 37 gwlad. O Berlin i Brooklyn, Hong Kong i Hawai, Taipei i Tel Avic, Sao Paulo i Dŷ’r Opera Sydney a Gwyl Fringe, Caeredin – mae Architect of Air wedi swyno cynulleidfaoedd ar draws y byd.
Yn ôl Dyfan Roberts, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau, “Mae digwyddiad Luminarium yn atgyfnerthu cenhadaeth Pontio i ddarparu profiadau celfyddydol newydd a chyffrous gan ymarferwyr o safon byd-eang i bobl Bangor. Wedi ei lleoli ar Hen Lawnt Fowlio’r ddinas, i’w gweld o bobman a chyda mynediad hwylus o ganol y dref, mi fydd gosodiad celf Luminarium yn cryfhau’r cysylltiadau cymunedol rhwng y coleg a’r dref, gan balmentu’r ffordd tag at fwy o ddigwyddiadau cyhoeddus wrth i ni ddynesu at agoriad swyddogol canolfan Celfyddydau ac Arloesedd Pontio yn 2013.”
DIWRNOD HWYL Y LUMINARIUM! Dydd Sadwrn 1 Hydref 11am, Stryd Fawr
Dros gwyliau’r haf, cymerodd plant Maesgeirchen ran mewn cyfres o weithdai crefft dan arweinyddiaeth y cwmni cydweithredol celfyddydol lleol, Syrcas Circus. Ar y dydd Sadwrn, 1 Hydref am 11am cawn weld ffrwth eu llafur mewn gorymdaith arbennig, yn cychwyn o’r Octagon, Stryd y Deon. Yn hebrwng y pobl ifanc ar hyd y Stryd Fawr bydd perfformwyr Syrcas Circus, swigenni anferthol Dr Zig’s Dragon Bubbles a rhyddmau y band samba, Batala Bangor.
Hefyd yn ymweld â Bangor am y tro cyntaf bydd This is Rubbish (TiR)– elusen sy’n ymgyrchu gweithredu polisîau yn ymwneud â gwastraff bwyd, mewn dulliau hwyliog a chreadigol, o Fachynlleth. Meddai sylfaenwr TiR, Caitlin Shepherd, “Byddwn yn gwieni sudd afal, chwarae gemau afalau traddodiadaol a chynnal gweithdai adnabod afalau. Felly dewch i flasu’r afalau yn eu toreth; rhain oll yn afalau byddai fel arall yn cael eu taflu!”
Mae posib i’r Luminarium gael ei werthfawrogi gan pobl o bob oed a gallu. Mae’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac i bobl sydd ag anhawsterau symud. Bydd rhaid i blant o dan 16 oed fod dan oruchwyliaeth oedolyn (mwyafrif o bedwar plentyn i bob oedolyn).
Bydd y Lumiarium ar agor rhwng 11am-6pm
Tocynnau : £3 (10% gostyngiad i grwpiau o bedwar neu fwy)
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2011