‘Cymraeg y tu hwnt i’r Ysgol? Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddefnydd Cymdeithasol Disgyblion Ysgol o’r Gymraeg ynghyd ag Oblygiadau ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol Eraill – Rhai Canfyddiadau Cychwynnol’ - Siôn Aled Owen
Adran Addysg, Prifysgol Bangor
Dyddiad: Dydd Mercher, Ebrill 20 2016, 13.00-14.30
Ystafell: Alun 0.01
Croeso i bawb
Bu twf rhyfeddol yn y nifer o blant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn y chwarter canrif diwethaf, gydag ymron i un disgybl ym mhob pedwar yng Nghymru bellach yn mynychu ysgol cyfrwng Gymraeg. Ar yr un pryd, fodd bynnag, lleisiwyd pryder cynyddol, a gadarnhawyd gan ymchwil blaenorol, ynghylch lefelau isel defnydd yr iaith gan ddisgyblion y tu allan i’r ysgol, yn arbennig, ond nid yn unig, yn yr ardaloedd lle na siaredir y Gymraeg yn eang yn y gymuned.
Mae’r prosiect presennol yn ceisio adnabod y ffactorau sy’n dylanwadu ar y defnydd neu’r diffyg defnydd o’r Gymraeg gan ddisgyblion yn gymdeithasol gan ddefnyddio dulliau cymysg o gasglu data gyda disgyblion Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7 mewn pedair ysgol uwchradd ac wyth ysgol gynradd Gymraeg sy’n gwasanaethu ardaloedd amrywiol o Gymru. Dyma’r astudiaeth ehangaf hyd yma yn y maes hwn ac mae wedi ennyn diddordeb sylweddol yn y byd academaidd ac o du’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt.
Yn ogystal â chrynhoi’r cefndir a’r fethodoleg bydd y cyflwyniad yn crynhoi rhai o’r canfyddiadau cychwynnol o ddadansoddi’r data, gan gynnwys yn y meysydd canlynol:
- Y berthynas rhwng agweddau at y Gymraeg a’r defnydd ohoni
- Swyddogaeth cymhelliannau gwahanol
- Y berthynas rhwng y gymuned a’r ysgol
Bydd hefyd yn trafod y modd y mae’r prosiect hwn yn awgrymu ymchwil pellach posibl a allai fod yn werthfawr ynghylch ffactorau sy’n hollbwysig ar gyfer hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol yn y dyfodol, ac sy’n ymarferol berthnasol hefyd i gyd‑destunau gwarchod a hybu ieithoedd lleiafrifol eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2016