Cyn-fyfyriwr yn Brif Olygydd North Wales Live a’r Daily Post
Yn ddiweddar, penodwyd Dion Jones, cyn-fyfyriwr BA Hanes gyda Newyddiaduraeth yma ym Mangor, i swydd Prif Olygydd North Wales Live a’r Daily Post. Dyma ychydig o’i hanes a sut y mae gradd o Fangor wedi helpu ei yrfa:
“Dechreuais astudio am radd BA mewn Hanes gyda Newyddiaduraeth ym Mangor yn 2004, gan raddio yn 2007.
“Dewisais astudio ym Mangor oherwydd roedd opsiynau’r cwrs yn ddigon hyblyg i’m galluogi i ymdrochi yn fy niddordebau hanesyddol – yn arbennig hanes Cymru – tra ar yr un pryd ddilyn fy niddordeb mewn newyddiaduraeth, rhywbeth na lwyddais i’w ganfod yn unlle arall.
“Treuliais dair o’m blynyddoedd hapusaf ym Mangor a gallaf ddweud yn berffaith onest na fyddwn i’n gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud rŵan oni bai am yr addysg a dderbyniais yn y brifysgol.
“Rroedd yr agwedd newyddiadura ar fy ngradd yn ddylanwad mawr arnaf wrth imi geisio gyrfa. Roedd modiwlau newyddiaduraeth eu hunain yn amrywiol ac yn cynnwys popeth o ddyluniad print a newyddiadura ar-lein i ddarlledu radio a theledu. Roedd hyn yn hynod fuddiol gan iddo fy nghyflwyno i amrywiaeth o opsiynau gyrfaol y gallwn eu ceisio. Hefyd, fe wnes nifer o ffrindiau tra’n dilyn y cwrs – sawl un yn dal i fod yn ffrindiau hyd heddiw – ac sydd wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych yn y diwydiant.
“Cefais ddarlithoedd gan bobl fel Llion Iwan – newyddiadurwr a chrëwr rhaglenni dogfen Cymraeg uchel ei barch – ymysg eraill. Rydw i’n cofio meddwl ar y pryd pa mor lwcus roeddwn i gael fy nysgu gan ffigyrau uchel eu parch yn y diwydiant. Roedd clywed eu profiadau yn y diwydiant a throsglwyddo eu gwybodaeth wedi cadarnhau’r syniad mai hwn oedd y llwybr gyrfaol imi.
“Tra oeddwn ym Mangor hefyd fe welais fy narnau cyhoeddedig cyntaf. Roeddwn yn gyfrannwr cyson i’r papur newydd i fyfyrwyr, SEREN, a bu’r profiad yn help mawr imi gymhwyso’r holl wybodaeth a enillais i ymarfer go iawn.
“Er mai cam cyntaf ar ffordd a fuasai’n arwain at yrfa mewn newyddiadura oedd Prifysgol Bangor, yr oedd yn gam arwyddocaol. Addysgodd y cwrs yr holl sgiliau a fyddai arnaf eu hangen i’m helpu yn y stafell newyddion ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai nodi enw Prifysgol Bangor ar fy CV a’m helpodd i gael fy swydd gyntaf yn y diwydiant – newyddiadurwr dan hyfforddiant yn y Cambrian News ym Mhorthmadog.”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2020