Cynhadledd i drafod cyfraith hawlfraint a cherddoriaeth mewn iaith leiafrifol
Cynhelir cynhadledd ddwyieithog arbennig ym Mangor i drafod datblygiadau diweddar ym maes cyfraith hawlfraint ac effaith y gyfraith ar gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol.
Trefnir y gynhadledd ‘Casglu a Gwarchod: Hawlfraint yn yr 21ain Ganrif a Cherddoriaeth Mewn Ieithoedd Lleiafrifol’ gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor ac fe’i cynhelir yn Neuadd Reichel ar Ddydd Iau 13eg Chwefror, 9.30am-4.00pm.
Mae’r gynhadledd, a noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cael ei chynnal yn sgil dyfarniad diweddar y Tribiwnlys Hawlfraint yn yr achos rhwng y BBC ac Eos, asiantaeth gasglu sy’n cynrychioli hawliau a diddordebau cerddorion Cymreig.
Y prif siaradwyr gwadd yw’r Athro Ian Hargreaves, Athro'r Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Gwion Lewis, bargyfreithiwr gyda Landmark Chambers yn Llundain a chwnsler Eos yn y tribiwnlys diweddar.
Bydd yr Athro Hargreaves yn trafod ‘Gwleidyddiaeth Hawlfraint’ ac yn egluro egwyddorion ei adolygiad o gyfraith Eiddo Deallusol i Lywodraeth y DU, tra bydd Gwion Lewis yn edrych yn ôl ar ddyfarniad y Tribiwnlys a’i arwyddocâd i’r drafodaeth ehangach ar gyfraith hawlfraint a cherddoriaeth mewn ieithoedd lleiafrifol.
Cyfranwyr eraill i’r gynhadledd fydd John Hywel Morris (PRS for Music), Kalev Rattus (EAU Estonia), Mark Hyland (darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor sy’n arbenigo ar Gyfraith Eiddo Deallusol a Hawlfraint), a Deian ap Rhisiart a Steffan Thomas ( myfyrwyr doethuriaeth sy’n ymchwilio i hawlfraint cerddoriaeth yng Nghymru).
“Gobeithiwn y bydd y gynhadledd hynod amserol yma yn ysgogi mwy o ddiddordeb a thrafodaeth ym maes hawlfraint yn gyffredinol yng Nghymru, ac yn arbennig felly o ran hawlfraint yng nghyd-destun ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol”, meddai Carys Aaron, trefnydd y gynhadledd a Darlithydd yn y Gyfraith ym Mangor. “Ein gobaith yw y bydd yn arwain at ymchwil pellach a mwy o arbenigedd cynhenid yn y maes yma yng Nghymru.
Nid oes cost am fynychu ‘Casglu a Gwarchod: Hawlfraint yn y 21ain ganrif a cherddoriaeth mewn ieithoedd lleiafrifol’ a darperir cinio. Mae cofrestru yn hanfodol; gellwch gofrestru drwy e-bostio cynhadleddhawlfraint@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2014